Mae datblygu sgiliau ymarferwyr y dyfodol yn y diwydiant cerddoriaeth yn amcan craidd i ni fel elusen. Yn aml, y llwybrau mae sefydliadau llawr gwlad yn eu cynnig yw’r profiad ymarferol cyntaf i lawer, ac mae’n gam hollbwysig i mewn i’r sector diwylliannol.
Ar y llwyfan a thu ôl i’r llen, rydyn ni’n ymroddedig i gynnig cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth i ddarpar beirianwyr cerdd, technegwyr goleuo, cynrychiolwyr digwyddiadau, ffotograffwyr, perfformwyr a mwy.
Darllenwch fwy am y cyfleoedd sydd ar gael yng Nghlwb Ifor a’n rhaglenni datblygu sgiliau.
Hyfforddiant
Rydyn ni’n cynnig sesiynau cysgodi i dechnegwyr sain a goleuo sy’n chwilio am brofiad gwaith yn y diwydiant cerddoriaeth. Mae’r sesiynau yma’n cynnig profiad o weithio mewn amgylchedd proffesiynol gyda pheirianwyr sain a thechnegwyr goleuo blaenllaw, o dasgau llwytho i mewn a llwytho allan, i drosglwyddo rhwng artistiaid ar y llwyfan. Cysylltwch â ni am fwy o fanylion.
Gwirfoddoli
Ochr yn ochr â llenwi’r brifddinas gyda cherddoriaeth fyw anhygoel, mae Gŵyl Sŵn yn ymroddedig i greu cyfleoedd cyffrous i wirfoddoli drwy gydol y penwythnos. Bob blwyddyn, mae Gŵyl Sŵn yn gweithio gyda hyd at 60 o wirfoddolwyr, ar draws pum prif faes yr ŵyl:
- Cysylltiadau Cwsmeriaid
- Cyswllt Artistiaid
- Marchnata
- Cynhyrchu
- Sesiynau Diwydiant
Yn 2023, rydyn ni’n bwriadu ehangu ein darpariaeth, gan gydweithio gyda Phrifysgol De Cymru a Rhaglen Resonant sy’n cael ei chynnal gan Beacons Cymru, i rymuso’r bobl sy’n chwilio am brofiad yn y diwydiant cerddoriaeth a chynnig cyfleoedd ymarferol yn ystod penwythnos yr ŵyl.

Ges i amser gwych, ac roedd pawb gwrddais i â nhw yn hyfryd ac yn bleser gweithio gyda nhw. Alla i ddim aros tan flwyddyn nesaf. Rosy (Gwirfoddolwr)
Sesiynau Diwydiant Cerddoriaeth
Rydyn ni’n hoff o gerddoriaeth, ond rydyn ni’n hoff o drafodaeth banel hefyd!
Mae Sesiynau Diwydiant Cerddoriaeth Clwb Ifor yn ganolog i’n gwerthoedd craidd. Ochr yn ochr â’r rhaglen gerddoriaeth yng Ngŵyl Sŵn, ein nod yw trafod a thaflu goleuni ar y gwahanol lwybrau i’r diwydiant cerddoriaeth.
Gan weithio gyda’r partneriaid a’r sefydliadau gorau yn y sector, nod y gynhadledd yw ysbrydoli mwy o bobl i gymryd eu cam cyntaf i’r diwydiant cerddoriaeth, gan gyfeirio at y cymorth a’r cyfleoedd sydd ar gael. Rydyn ni hefyd yn bwriadu cynnal cyfres o ddigwyddiadau untro drwy gydol y flwyddyn yn dilyn digwyddiad eleni.
Merched Yn Neud Miwsig
Gan weithio mewn partneriaeth â’r Eisteddfod Genedlaethol, ein nod yw annog mwy o ferched ifanc i greu a pherfformio cerddoriaeth Gymraeg. Gan gynnal cyrsiau undydd a chyrsiau preswyl, rydyn ni’n cynnig lle diogel i ferched ddysgu sgiliau newydd a chwrdd ag eraill sydd hefyd yn awyddus i greu, cynhyrchu, a pherfformio cerddoriaeth newydd. Rydyn ni’n cysylltu pobl ifanc ag ymarferwyr cerdd blaenllaw, ac ers 2018, rydyn ni wedi bod yn helpu merched i gamu i’r llwyfan gyda sgiliau a hyder newydd.
Bydd y digwyddiad nesaf yn cynnwys gweithdy undydd ac arddangosiad gyda’r nos yng Nghlwb Ifor Bach ym mis Medi, ar ôl derbyn cyllid gan Tŷ Cerdd.
Hoffwn ddiolch i bawb ddaeth i siarad gyda ni am Ferched yn Neud Miwsig. Y profiad gorau erioed! Taswn i’n cael cyfle i wneud y penwythnos yma eto, byswn i’n fwy na pharod! Mae’n deimlad braf i ni fel grŵp o bobl allu dod at ein gilydd a dathlu’r un peth rydyn ni wrth ein bodd gydag e, heb gael teimlad drwg am y peth, ac mae’n hyfryd ein bod ni ferched yn falch o allu gwneud hynny! Beth (Tywyn) - Merched Yn Neud Miwsig

Gweithdai
Mae llwyddiant Merched yn Neud Miwsig wedi’n galluogi ni i gael cyllid i gynnal prosiectau tebyg ar gyfer unrhyw berson ifanc yng Nghymru sydd â diddordeb mewn creu cerddoriaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ar ôl derbyn cyllid gan Anthem, roedd modd i ni gynnal dau gwrs preswyl mewn partneriaeth â Maes B ac Urdd Gobaith Cymru. Yn seiliedig ar gyrsiau tebyg a wnaed drwy raglen Merched yn Neud Miwsig, roedd rhain yn agored i unrhyw un oedd yn dymuno meithrin dealltwriaeth a gwybodaeth am sut i greu, cynhyrchu a pherfformio cerddoriaeth. Yn dilyn adborth cadarnhaol gan y bobl a fu ar y cwrs, rydyn ni’n gobeithio datblygu cyfleoedd pellach i ehangu’r cwrs yma yn y dyfodol agos.