Hygyrchedd

Mae Clwb Ifor Bach yn lleoliad cynhwysol sy’n croesawu cwsmeriaid byddar ac anabl.

 

1. MANYLION CYSWLLT

Ffôn: 02920 232 199
E-bost: post@clwb.net
Gwefan: www.clwb.net

Os ydych am gysylltu â ni ynghylch hygyrchedd safle, dylech nodi bod angen o leiaf pum diwrnod gwaith o rybudd cyn y sioe rydych chi am ddod iddi.

 

2. DISGRIFIAD O’R SAFLE

Mae Clwb Ifor Bach yn ofod clwb a cherddoriaeth fyw tri llawr. Yr ystafelloedd ar y llawr gwaelod a’r ail lawr yw’r prif ofodau ar gyfer digwyddiadau byw a nosweithiau clwb, ond defnyddir y tri llawr ar nosweithiau clwb nos Sadwrn.

Mae mynediad heb risiau gyda ramp yn yr ardal ysmygu i’r ystafell ar y llawr gwaelod. Mae gan yr ystafell yma dŷ bach hygyrch hefyd, y mae modd ei defnyddio gydag allwedd RADAR.

Mae 19 gris yn arwain at yr ystafell ar y llawr cyntaf.

Mae 38 gris yn arwain at yr ystafell ar yr ail lawr.

Does dim tŷ bach hygyrch ar y llawr cyntaf na’r ail lawr.

 

3. CYFLEUSTERAU HYGYRCHEDD Y GALLWCH EU HARCHEBU, A SUT I WNEUD CAIS

(i) Tocynnau Cynorthwyydd Personol

Rydyn ni’n cynnig tocyn Cynorthwyydd Personol i unrhyw gwsmer na fyddai’n gallu dod i sioe heb gymorth Cynorthwyydd Personol. Os oes angen tocyn Cynorthwyydd Personol arnoch chi, anfonwch e-bost aton ni i drafod eich gofynion. Byddwn ni’n cadarnhau’r tocyn yma drwy e-bost. Byddwn yn gofyn i chi ddarparu tystiolaeth – e.e. cynllun Hynt neu Hygyrchedd, tystiolaeth o Lwfans Byw i’r Anabl neu PIP, Bathodyn Glas ac ati – er mwyn cael tocyn Cynorthwyydd Personol, ynghyd â phrawf fod gennych docyn dilys ar gyfer y sioe dan sylw. Os nad oes gennych ddim un o’r uchod, ond bod yn dal angen Cynorthwyydd Personol i ddod i’r digwyddiad gyda chi, yna ffoniwch ni ac fe drafodwn ni eich anghenion hygyrchedd ar sail unigol.

 

(ii) Cadeiriau / Ardaloedd Gwylio Hygyrch

Ar hyn o bryd does dim ardaloedd gwylio hygyrch pwrpasol yn ddim un o’n gofodau digwyddiad. Fodd bynnag, os oes angen sedd arnoch ar gyfer y sioe, rhowch wybod i ni ymlaen llaw. Mae croeso i chi gyrraedd 10 munud cyn i’r drysau agor hefyd.

 

(iii) Parcio hygyrch

Does dim parcio hygyrch gan y safle ar hyn o bryd.

 

4. TEITHIO A CHYRRAEDD

Mae’r maes parcio hygyrch agosaf 120 metr i ffwrdd, sef maes parcio NCP ar Stryd-y-Cei. Gall tacsis eich gollwng ar Heol y Castell, sydd 100 metr i ffwrdd. Mae mynediad gwastad o fan hyn i’r safle. Mae Gorsaf Drenau Caerdydd Canolog 0.4 milltir i ffwrdd, neu daith fer mewn tacsi. Mae sawl llwybr bws yn mynd heibio’n agos hefyd.

Mae oriau agor y safle’n dibynnu ar y digwyddiad. Bydd gwybodaeth ar gael ar ein gwefan neu ar eich tocyn.

 Os oes angen mynediad gwastad arnoch, rhowch wybod i’r staff wrth y drws, a byddan nhw’n eich tywys at y mynediad hygyrch.

 

5. TAI BACH

Mae tŷ bach hygyrch ar gael ar y llawr gwaelod y gellir defnyddio allwedd RADAR i’w agor. Os ydych chi’n mynd i ddigwyddiad ar lawr arall, a bod angen i chi ddefnyddio’r tŷ bach hygyrch, rhowch wybod i’r staff ar y drws, a byddan nhw’n eich tywys i’r tŷ bach ar y llawr gwaelod.

 

6. CWSMERIAID SYDD Â GOFYNION MEDDYGOL

Rydyn ni’n croesawu cwsmeriaid sydd angen dod â meddyginiaeth, bwyd, diod a chyfarpar meddygol gyda nhw er mwyn rheoli cyflwr meddygol.

 

7. CŴN CYMORTH

Rydyn ni’n croesawu cŵn cymorth i’r safle, a byddwn yn falch o ddarparu powlen o ddŵr os oes angen. Fodd bynnag, nid yw pob digwyddiad yn addas, felly dylech gysylltu â ni ymlaen llaw. Mae’n bosib y gallwn gynnig lleoliad y gallan nhw aros yn ystod y gig, ond cysylltwch ymlaen llaw i drafod hyn ymhellach.


8. GOLEUADAU STRÔB

Mae’n bosib y bydd goleuadau strôb yn cael eu defnyddio yn y safle. Os oes gennych chi unrhyw bryderon, ffoniwch ni.

9. GWYBODAETH ARALL

(i) Mae plygiau clust ar gael y tu ôl i’r bar os oes angen.

(ii) Yn achlysurol mae’n bosib y bydd gig yn cael ei symud i ystafell arall yn yr adeilad. Os yw sioe’n cael ei symud o ystafell hygyrch i lawr arall, byddwn yn rhoi gwybod i ddeiliaid tocynnau. Bydd sioeau hygyrch yn cael eu marcio ar y dudalen digwyddiadau gan ddefnyddio’r logo ‘Attitude is Everything’.

(iii) Does dim bariau isel ganddon ni ar hyn o bryd, ond mae ein staff yn barod i helpu mewn unrhyw ffordd bosib.

(iv) Ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn cynnig opsiynau perfformiadau â chymorth, ond mae hyn yn rhywbeth rydyn ni’n ei ystyried.

 

10. CANLLAW TESTUN MAWR / HAWDD EI DDARLLEN

Mae modd llwytho copi o’r wybodaeth yma i lawr i’w argraffu fel ffeil PDF yma.