Ein Gwaith

Fel elusen gofrestredig, ein nod yw ‘hyrwyddo addysg y cyhoedd drwy annog dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o gerddoriaeth gyfoes, gan gynnwys cerddoriaeth Gymraeg a cherddoriaeth o Gymru’. Ers agor yn 1983 rydyn ni wedi helpu miloedd o ddarpar dechnegwyr, hyrwyddwyr, perfformwyr, ffotograffwyr a mwy yn ystod camau cynnar eu gyrfaoedd. Rydyn ni’n ymroddedig i gynyddu cysylltiad cynulleidfaoedd â cherddoriaeth newydd, gan roi cyfleoedd i artistiaid dyfu a datblygu, a chefnogi’r rhai sy’n chwilio am lwybrau eraill i mewn i’r diwydiant. Rydyn ni’n credu y dylai fod pawb, o bob cefndir a gallu, yn gallu cael mynediad at gerddoriaeth – boed hynny ar y llwyfan neu tu ôl i’r llen. Rydyn ni felly’n canolbwyntio ar y meysydd allweddol canlynol yn ein gwaith, er mwyn cyflawni ein hamcanion elusennol.