Ymddiriedolwyr
Sefydlwyd Clwb Ifor Bach yn wreiddiol fel Cymdeithas Anghorfforedig yn 1983, ond mae bellach yn gweithredu fel Sefydliad Corfforedig Elusennol nid-er-elw. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’n Bwrdd Ymddiriedolwyr am eu hamser a’u cefnogaeth.
Sion Tudur (Cadeirydd)
Yn gyfreithiwr corfforaethol ac yn bartner gyda chyfreithwyr Hugh James yng Nghaerdydd, mae Sion wedi bod yn aelod o fwrdd Clwb Ifor Bach ers 2008.
Andy Elliot
Mae Andy’n aelod achrededig o CIPR, ac mae ganddo brofiad helaeth yn darparu cymorth cysylltiadau cyhoeddus, cyfathrebu, ac ymgysylltiad cymunedol i brosiectau datblygu ac adfywio graddfa fawr. Mae wedi gweithio gyda sawl elusen a sefydliad nid-er-elw, ac mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y celfyddydau, diwylliant, ac ymgyrchoedd achos da.
Catrin Rogers
Ganwyd Catrin yng Nghaerdydd, ac aeth i Brifysgol Caeredin i astudio Llenyddiaeth Saesneg, cyn hyfforddi fel newyddiadurwr ym Mhrifysgol Caerdydd a gweithio fel newyddiadurwr yn Llundain, Glasgow a ’nôl adre yng Nghymru. Wedi hynny aeth Catrin i fyd cysylltiadau cyhoeddus ym maes y celfyddydau, gan ddod yn swyddog y wasg i National Theatre Wales am ddegawd, ers ei lansio yn 2009. Yna aeth i weithio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, gan ddod yn uwch reolwr cyfathrebu, cyn mynd yn llawrydd yn haf 2022.
Lara Herde
Yn eiriolwr amlwg dros y sîn gerddoriaeth lawr gwlad yng Nghymru, dechreuodd Lara ym maes Llywodraethu a Chyllido’r Trydydd Sector, cyn symud tuag at hyrwyddo cerddoriaeth ar ôl cyflawni MBA mewn Rheolaeth yn y Celfyddydau. Ers hynny, mae Lara wedi arwain ar y gwaith o ailwampio adeilad eiconig Neuadd y Frenhines yn Arberth, sy’n safle elusennol sefydledig yn y gorllewin. Mae Lara hefyd yn Gyflwynydd Radio rhan amser.
Leigh Jones
Cyn troi at newyddiaduraeth, roedd gan Leigh ddeuddeg mlynedd o brofiad yn gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth ym maes recordiau a chyhoeddi. Gan ddechrau drwy ryddhau cerddoriaeth ei hun, aeth ymlaen i weithio i labeli fel Universal, Warners a BMG, yn ogystal â gweithio fel arbenigydd cerddoriaeth Gymraeg ar gyfer PRS For Music.
Lucy Price
Yn hanu o’r gorllewin yn wreiddiol, mae Lucy’n byw yng Nghaerdydd ers cyflawni astudiaethau ôl-raddedig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ar ôl gweithio mewn nifer o swyddi datblygu a chodi arian mewn gwyliau a lleoliadau celfyddydol a cherddoriaeth ledled y de ac ym Mryste, mae Lucy wedi symud ffocws ei gyrfa yn ddiweddar, ac mae bellach yn gweithio i Lywodraeth Cymru ym maes polisi.
Lucy Squire
Mae Lucy’n weithiwr proffesiynol yn y Diwydiannau Creadigol, ac mae ganddi gefndir cyfreithiol a hanes ym maes busnes ac addysg. Mae’n gyfranogwr gweithgar yn ecoleg gerddorol y de, ac mae hi wedi rhedeg sawl cwmni llwyddiannus ym maes manwerthu, digwyddiadau a label recordio, a’r mwyaf nodedig o’u plith oedd Catapult, a oedd wedi’i leoli yn un o arcedau enwog Caerdydd. Mae Lucy’n eistedd ar Fwrdd Cerddoriaeth Cyngor Caerdydd, ac mae’n Bennaeth Cerdd a Drama ym Mhrifysgol De Cymru ar Gampws yr ATRiuM yng Nghaerdydd.
Matthew Phipps
Mae Matthew’n bennaeth ar Dîm Trwyddedu Cymru a Lloegr TLT. Mae’r tîm wedi’i gydnabod fel arweinydd o ran arfer cenedlaethol. Mae hefyd yn Ymddiriedolwr ac yn Gydymaith Sefydliad Tafarnwyr Prydain, yn swyddog cyfreithiol ar gyfer Cymru yn y Sefydliad Trwyddedu, ac yn gyn-ysgrifennydd i Grŵp Hollbleidiol Bwyd a Diod Cynulliad Cymru.
Tracey Marsh
Mae gan Tracey gyfrifoldeb am strategaeth a rheolaeth ariannol yng Nghyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ac mae ganddi ugain mlynedd o brofiad yn gweithio yn y sector preifat a’r trydydd sector. Cymhwysodd Tracey gyda Deloitte, ac mae wedi gweithio i enwau adnabyddus fel Kellogg’s, Trinity Mirror a Techniquest.