RYDYN NI’N TRAWSNEWID CLWB IFOR BACH
Clwb Ifor Bach yw’r hyrwyddwr a’r lleoliad cerddoriaeth llawr gwlad mwyaf toreithiog a blaenllaw yng Nghymru.
Ar ôl deugain mlynedd eiconig yn y diwydiant cerddoriaeth, rydyn ni am sicrhau dyfodol cerddoriaeth llawr gwlad yng Nghymru, drwy gynnal ailddatblygiad enfawr yn ein lleoliad.
Ein gweledigaeth yw cymryd yr adeilad adfeiliedig drws nesaf i Glwb Ifor Bach drosodd a’i uno â’n safle presennol ar Stryd Womanby, i drawsnewid y lle i fod yn lleoliad aml-ystafell cwbl hygyrch sy’n gallu dal hyd at 1,000 o bobl ar draws pob llawr.
Mae’r cynlluniau’n cynnwys gofod â chapasiti o 500 sy’n llenwi hen fwlch yn narpariaeth cerddoriaeth fyw bresennol y brifddinas, ac ystafell â chapasiti o 200, i sicrhau cymorth parhaus ar gyfer cerddorion newydd yn ystod camau cynnar eu datblygiad artistig.
Rydyn ni am i Glwb Ifor gael ei ailddatblygu i fod yn lleoliad hygyrch; gyda’r gallu nid yn unig i gynnal perfformiadau a digwyddiadau graddfa fwy, ond hefyd creu mwy o gyfleoedd yn y diwydiant ar gyfer cerddorion, cynulleidfaoedd a’r gymuned – fel bod modd i fwy fyth o bobl fwynhau cerddoriaeth yng Nghymru.
Bydd dyluniad y safle newydd yn cadw cymeriad, swyn a threftadaeth Clwb Ifor, gan ei foderneiddio a’i ddiogelu ar gyfer y dyfodol a chenedlaethau i ddod, gyda hunaniaeth newydd wedi’i chrefftio gan y stiwdio ddylunio Nissen Richards.
Mae Clwb Ifor yn gweithredu fel elusen gofrestredig i wasanaethu ein cymunedau a sector cerddoriaeth ehangach Cymru – darllenwch fwy am ein gwaith hyd yma yn fan hyn.
MAE ANGEN EICH CYMORTH CHI ARNON NI
Gydag ond dwy flynedd tan i ni ddechrau ar y gwaith adeiladu, rydyn ni ar gam tyngedfennol. Rydyn ni wedi cyflwyno’r cais cynllunio i Gyngor Caerdydd, ac rydyn ni’n cymryd y camau cyntaf i wireddu ein gweledigaeth.
Ond, mae taith hir o’n blaenau, yn enwedig wrth ystyried pwysau chwyddiant ac effaith hyn ar y gost ers i’r dyluniadau cysyniadol cyntaf gael eu cyhoeddi ddechrau 2019.
Er mwyn gwneud yr adeilad newydd a’r ailddatblygiad yn bosib, mae Clwb Ifor yn galw ar ei gefnogwyr i gefnogi’r prosiect yma. Mae ganddon ni ddeunaw mis i godi’r arian sydd ei angen, a byddwn ni’n archwilio pob llwybr cymorth posib yn ystod y cyfnod yma er mwyn symud y prosiect yn ei flaen.
Mae Clwb Ifor wedi bod ar flaen y gad o ran diwylliant Cymru yng Nghaerdydd ers deugain mlynedd. Bydd y prosiect enfawr yma’n caniatáu i ni ehangu cwmpas ein darpariaeth ddiwylliannol a rhoi’r gwytnwch i ni barhau i dyfu am ddegawdau i ddod.
Mae ganddon ni’r weledigaeth, yr uchelgais, a’r sgiliau – yr hyn sydd ei angen nawr yw codi’r arian i gyflawni ein cynlluniau a chynnig cartref newydd i gerddoriaeth yng Nghymru.
Sut gallwch chi fod yn rhan o hyn?
Dyma lle mae angen cefnogaeth ein partneriaid yn y sector, cwmnïau, ac unigolion.




BETH FYDDWCH CHI’N EI GEFNOGI
Bydd uwchraddio ein lleoliad llawr gwlad eiconig yn caniatáu i ni ddatblygu mwy o gyfleoedd i bobl fwynhau cerddoriaeth yng Nghymru. Drwy gyfrannu at ein hailddatblygiad, byddwch chi’n ein helpu ni i wneud y canlynol:
- Creu lleoliad ar y llawr gwaelod â chapasiti i 500 o bobl, gan gynyddu capasiti cyffredinol yr adeilad i lenwi bwlch yn y seilwaith lleoliadau presennol yn y brifddinas, gan gadw’r gofod llai â chapasiti i 200 o bobl ar gyfer y genhedlaeth nesaf o artistiaid newydd yng Nghymru.
- Ysbrydoli mwy o bobl i gamu i’r llwyfan. Mae lleoliadau llawr gwlad, oherwydd eu maint ac agosrwydd y gynulleidfa at yr artistiaid ar y llwyfan, yn ysbrydoli’r bobl yn yr ystafell i wneud yr un peth. Er ei bod yn gyffrous gwylio gig mewn stadiwm mawr, mae hefyd angen y lleoliadau llai i sicrhau bod cyfleoedd i berfformio’n hygyrch i bawb.
- Cefnogi mwy o gerddorion ac ymarferwyr y diwydiant ar gamau cynnar eu gyrfa – gan ganiatáu iddyn nhw gysylltu ag eraill yn y sector, cael profiad wrth weithio a pherfformio, a’n helpu i chwalu’r rhwystrau rhag mynd i mewn i’r diwydiant.
- Cynnig mwy o gyfleoedd hyfforddi i oedolion ifanc sy’n dymuno ymuno â’r diwydiant cerddoriaeth – ar y llwyfan a thu ôl i’r llen. Mae technegwyr sain a ddechreuodd eu hyfforddiant yng Nghlwb Ifor bellach yn teithio gyda bandiau ledled y byd. Helpwch ni i greu mwy o yrfaoedd cerddorol anhygoel.
- Parhau i gynnal digwyddiadau Cymraeg, i hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn ei holl ffurfiau.
- Parhau i sicrhau mai Clwb Ifor yw’r lleoliad cyntaf i lawer o bobl ddod i gyswllt â’r celfyddydau a diwylliant, gan hyrwyddo cariad gydol oes at gerddoriaeth.
Fel sefydliad sydd wastad wedi bod yn rhan o’m mywyd, rwy’n edrych ymlaen yn fawr i weld y datblygiadau newydd sydd ar y gweill a fydd yn ehangu ac atgyfnerthu’r arlwy o gerddoriaeth byw yng Nghaerdydd. Gwenno Saunders