Mae pawb yn haeddu cael mynediad a phrofi cerddoriaeth. Er mwyn gwireddu hyn, rydyn ni’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu cyfleoedd er mwyn i gynulleidfaoedd allu dod i gysylltiad â cherddoriaeth ledled Cymru.
Mae’r digwyddiadau rydyn ni’n eu cefnogi yn parhau i dyfu bob blwyddyn – o ran nifer y sioeau a chyrhaeddiad cynulleidfa. Fe hyrwyddon ni dros 150 o’n digwyddiadau cerddoriaeth fyw ein hunain yn 2022, oedd ar ein safle ac mewn mannau eraill. Fe gynhalion ni 100 o sioeau cerddoriaeth fyw eraill gan hyrwyddwyr allanol lleol a chenedlaethol, a dros 200 o ddigwyddiadau cerddoriaeth electronig a chlwb.
Rydyn ni hefyd yn chwilio am gyfleoedd i raglennu tu allan i Gaerdydd, gan weithio gyda lleoliadau eraill i gynnal sioeau untro neu deithiau â sawl sioe ledled y wlad. Dros y 5 mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi hyrwyddo sioeau yn Abertawe, Aberystwyth, Casnewydd, Wrecsam, Caerfyrddin, Aberteifi, Caernarfon, Bethesda, y Fenni a Llangollen.
Yn 2022, roedd y gynulleidfa gyfunol ar gyfer yr holl weithgarwch yn agos at 100,000.

Gŵyliau
Rydyn ni hefyd wedi datblygu rhaglen ŵyl gref – o ran ein digwyddiadau ni ac mewn partneriaeth â sefydliadau sy’n rhannu ein hamcanion – er mwyn cynyddu cysylltiad cynulleidfaoedd â cherddoriaeth newydd sy’n dod i’r amlwg.
Maes B
Mae Maes B yn digwydd dros bedwar diwrnod fel rhan o’r Eisteddfod Genedlaethol, ac yn cynnig cyfle i ddathlu cerddoriaeth newydd Gymraeg. Sefydlwyd Maes B yn 1997, ac i lawer o bobl ifanc Cymru, dyma eu profiad cyntaf o ŵyl gerddoriaeth. Mae felly’n gam hanfodol tuag at feithrin cysylltiad agosach â cherddoriaeth Gymraeg a’r sector diwylliannol ehangach dros y blynyddoedd i ddod. Dechreuon ni weithio mewn partneriaeth â’r Eisteddfod yn 2000, ac rydyn ni bellach yn gweithio gyda’r tîm ehangach i raglennu llwyfannau ar y maes – Caffi Maes B a Llwyfan y Maes – ac i gynnal digwyddiadau a gweithdai ychwanegol drwy gydol y flwyddyn.
Sŵn Festival
Gŵyl Sŵn yw’r ŵyl gerddoriaeth aml-safle sydd wedi bod yn rhedeg am y cyfnod hiraf yng Nghymru, ac mae’n digwydd bob mis Hydref ers 2007. Mae’n croesawu dros 120 o artistiaid bob blwyddyn i’r brifddinas. Er bod Gŵyl Sŵn yn rhoi pwyslais mawr ar cefnogi artisitiad o Gymru, mae’r digwyddiad wedi croesawu nifer di-ri o artistiaid cenedlaethol a rhyngwladol dros y pymtheg mlynedd diwethaf. I lawer, Gŵyl Sŵn oedd y tro cyntaf iddyn nhw berfformio yng Nghymru. Artistiaid newydd ac sy’n dod i’r amlwg yw ffocws yr ŵyl, ac mae wedi cynnig profiadau bythgofiadwy i enwau fel Black Country New Road, Ben Howard a Self Esteem cyn iddyn nhw dorri drwodd at gydnabyddiaeth ehangach.
Tafwyl
Mae Tafwyl, a gynhelir yng nghanol dinas Caerdydd bob haf, yn ŵyl ddiwylliannol am ddim a gaiff ei threfnu gan Fenter Caerdydd. Yn 2020, gofynnwyd i ni ymuno â thîm Tafwyl i raglennu llwyfannau cerddoriaeth yr ŵyl. Ers hynny, rydyn ni wedi parhau i adeiladu ar y gwaddol yma gyda gwaith drwy gydol y flwyddyn, gan drefnu digwyddiadau cerddoriaeth Gymraeg i gynulleidfaoedd ifanc yng Nghlwb Ifor Bach.
Mae Clwb Ifor Bach yn bartner allweddol i Tafwyl ers nifer o flynyddoedd. Mae’r cydweithio cyson yn sicrhau bod artistiaid newydd yn cael eu cyflwyno i’r wyl yn flynyddol ac mae eu cefnogaeth barhaus i gigiau ieuenctid Tafwyl yn bwysig iawn i feithrin a chefnogi y genhedlaeth nesaf. Heulyn Rees (Menter Caerdydd)
Showcase Cymru
Showcase Cymru – A partnership with Creative Wales and Horizons Wales – launched across 2 days at The Great Escape Festival in 2023 to develop audiences for, and increase engagement with Welsh music across the UK.
Celebrate This Place
Celebrate This Place is a new addition to our festival programme for 2023. Held in Cardiff and with a similar remit to Sŵn Festival, but on a smaller scale, our aim is to establish it as a new annual event for the city.




