Pwy ydyn ni. Beth rydyn ni’n ei wneud. Ein huchelgais.
Lleoliad cerddoriaeth fyw annibynnol yng Nghaerdydd yw Clwb Ifor Bach.
Rydyn ni wedi bod ar flaen y gad o ran diwylliant Cymru ers dros ddeugain mlynedd, ac rydyn ni’n falch o fod yn lleoliad llawr gwlad a hyrwyddwr cerddoriaeth mwyaf blaenllaw Cymru. Mae Clwb Ifor yn cyflwyno’r gorau o blith cerddoriaeth Cymru a thu hwnt i’w gynulleidfaoedd, gan roi cyfleoedd i filoedd o artistiaid newydd ddatblygu eu crefft.
Nid dim ond hyrwyddo cerddoriaeth fyw ydyn ni, mae ein gwaith bellach yn mynd y tu hwnt i hynny i gynnwys gwaith datblygu cymunedol, cynulleidfaoedd, artistiaid a sgiliau. Yn 2019, cymeron ni’r cam naturiol i ddod yn Elusen Gofrestredig ar ôl degawdau o fod yn fan cychwyn i lawer i’r diwydiant creadigol – ar y llwyfan a thu ôl i’r llen.
Rydyn ni’n ymroddedig i gynnig gofod i bawb allu dysgu, tyfu, a mwynhau cerddoriaeth a diwylliant ynddo. Ym mis Awst 2023, cyflwynon ni gais cynllunio i ailadeiladu ein cartref ar Stryd Womanby i ehangu ein darpariaeth ddiwylliannol a chreu mwy o gyfleoedd i bobl yng Nghymru. Bydd yr ailddatblygiad yma yn caniatáu i ni gynnal perfformiadau a digwyddiadau ar raddfa fwy, a chynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a gweithdai a fydd yn ehangu cyrhaeddiad a dylanwad amcanion elusennol Clwb Ifor. Darllenwch mwy am ein gwaith.
Hanes
Sefydlwyd Clwb Ifor Bach ddeugain mlynedd yn ôl fel clwb aelodau i siaradwyr Cymraeg y brifddinas. Buan y daeth yn ganolfan i gerddorion lleol a fyddai yna’n mynd ymlaen i ffurfio Catatonia, Super Furry Animals a bandiau eraill o Gymru a brofodd lwyddiant yng nghanol y nawdegau, gan ddod â’r lleoliad yn rhan o’r gylchred deithio ledled gwledydd Prydain. Mae Clwb Ifor bellach yn chwarae rhan allweddol yn cyflwyno pob math o gerddoriaeth newydd o Gymru a thu hwnt, ac mae ein hymrwymiad i gefnogi twf y Gymraeg yn parhau drwy ein gwaith.




Mae artistiaid enfawr wedi cerdded drwy ein drysau ar ddechrau eu gyrfa i fireinio eu crefft a datblygu eu cynulleidfa. Mae Clwb Ifor wedi cynnig llwyfan fel sbardun i artistiaid newydd, cyn iddynt fynd ymlaen i fod yn brif act mewn gwyliau cerddoriaeth a gwerthu pob tocyn ar deithiau byd-eang. Mae artistiaid fel Self Esteem, Biffy Clyro, The Killers, Rag’n’Bone Man, Elbow, Kaiser Chiefs, Mark Ronson a George Ezra wedi perfformio yng Nghlwb Ifor Bach, a heddiw, mae’r cyfle i berfformio yma’n dal i fod yn garreg filltir uchelgeisiol i artistiaid a bandiau newydd wrth iddyn nhw ddechrau ar eu taith greadigol.
Mae artistiaid sydd wedi chwarae ar ein llwyfannau hefyd yn cynnwys:
Coldplay, Super Furry Animals, LCD Soundsystem, Kasabian, Metronomy, Don Broco, Floating Points, Skrillex, Enter Shikari, Cate Le Bon, Akala, DJ Shadow, Declan McKenna, Young Fathers, Joy Orbison, Four Tet, Foals, Hot Chip, Bombay Bicycle Club, John Peel, Stereophonics, The Strokes, Pavement, Alex G, Bloc Party, Funeral For A Friend, Bullet For My Valentine, Roni Size, Ben Howard, High Contrast, Wolf Alice, Catfish & The Bottlemen, Nubya Garcia, Broadcast, Caribou, Idles, Muna, Amyl and the Sniffers, John Newman, James Bay, Frank Turner, Jockstrap, Black Country New Road, Bob Vylan, Yard Act, Georgia, Peggy Gou, Gruff Rhys, Gwenno, Panic Shack, The Bug Club, Mace The Great, Boy Azooga, Buzzard Buzzard Buzzard, Adwaith a mwy.




Heddiw
Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd i ymgysylltu â’r sector cerddoriaeth – ar y llwyfan a thu ôl i’r llen.
Ers cael statws elusen, rydyn ni wedi ffurfio partneriaethau anhygoel gyda Chyngor Caerdydd, Llywodraeth Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol, Tafwyl, Showcase Cymru a mwy i lwyfannu digwyddiadau a chynnig hyfforddiant, cymorth diwydiant a mwy – a hynny yn y lleoliad ac mewn mannau eraill yng Nghymru.
Yn 2018, cymeron ni’r awenau i drefnu Gŵyl Sŵn; dyma ŵyl gerddoriaeth aml-leoliad sydd wedi cael ei chynnal yn flynyddol yng Nghaerdydd ers 2007, ac sy’n canolbwyntio ar gerddoriaeth newydd, artistiaid lleol ac artistiaid ar ddechrau eu gyrfa.
Ers 2022, rydyn ni hefyd wedi datblygu rhaglen hyfforddi fewnol ar gyfer staff technegol a rheoli digwyddiadau, er mwyn mynd i’r afael â’r diffyg presennol yn y sector; rydyn ni wedi partneru â sefydliadau eraill, gan gynnwys Prifysgol De Cymru a rhaglen Resonant gan Brosiect Forté, er mwyn cynyddu mynediad at y llwybrau yma i’r diwydiant.
Rydyn ni’n hyrwyddo artistiaid mewn lleoliadau eraill hefyd. Rydyn ni wedi helpu artistiaid gwych fel Mogwai, Courtney Barnett, John Grant, Ólafur Arnolds, Self Esteem, Metronomy, Jose Gonzales, The Cribs, Low, The Hot 8 Brass Band, Kae Tempest, Caribou, Yard Act, Richard Dawson, Nova Amor, Squid, Shame, Boy Azooga, Cate Le Bon, Gruff Rhys, Gilles Peterson a Kate Nash i gyflwyno eu cerddoriaeth i gynulleidfaoedd mewn lleoliadau ledled Cymru.




