
Mae Cymru Greadigol wedi ymuno â Gorwelion a lleoliad eiconig Cymreig, Clwb Ifor Bach, i drefnu perfformiadau gan artistiaid Cymreig fydd yn rhan o ŵyl The Great Escape yn Brighton eleni.
• Partneriaeth rhwng Cymru Greadigol, Gorwelion (Cyngor Celfyddydau Cymru a’r BBC) a Chlwb Ifor Bach yw Showcase Cymru
• Ymhlith yr artistiaid Cymreig a fydd yn perfformio fydd Melin Melyn, Mace The Great, Edie Bens a Buzzard Buzzard Buzzard
• Cynhelir yr ŵyl ar 11-12 Mai 2023 yn One Church Brighton
Caiff gŵyl The Great Escape ei hystyried yn un o wyliau pwysicaf y DU ar gyfer cerddoriaeth newydd a phobl sy’n caru cerddoriaeth. Bydd Showcase Cymru yn dwyn ynghyd artistiaid Cymreig newydd a’u cynnwys ar y rhaglen eleni er mwyn tynnu sylw at yr amrywiaeth a’r cyfoeth o ddoniau sy’n parhau i ddeillio o’r sîn gerddoriaeth Gymreig.
Cynhelir y perfformiadau ar draws deuddydd ar brynhawniau 11 a 12 Mai 2023 yn One Church Brighton, a byddant yn cynnwys wyth artist o Gymru gan gynnwys Buzzard Buzzard, Buzzard, Edie Bens a Mace The Great.
Dywedodd Bethan Elfyn, Cynhyrchydd Horizons/Gorwelion: “Rydym ni’n croesawu’r cydweithio gyda Cymru Greadigol a Chlwb Ifor Bach i gynyddu ein gweithgarwch yn y digwyddiad, gan greu rhagor o gyfleoedd i’r artistiaid Cymreig sy’n perfformio a chynrychioli’r partneriaid sy’n cefnogi cerddorion Cymreig yn y digwyddiad dylanwadol hwn. Mae Gorwelion wedi bod yn cynnal perfformiadau yng ngŵyl The Great Escape ers 2015 a gwyddom pa mor bwysig ydyw yng nghalendr y diwydiant cerddoriaeth ryngwladol, a sut y gall ddenu mwy o sylw i gerddoriaeth Gymreig yn yr ŵyl.”
Dywedodd Adam Williams, Pennaeth Cerddoriaeth Clwb Ifor Bach: “Rydym yn falch iawn o gyflwyno Clwb Ifor Bach yn The Great Escape fel rhan o bartneriaeth newydd gyffrous gyda Cymru Greadigol a Gorwelion. Mae rôl Clwb Ifor Bach o fewn Showcase Cymru yn ein galluogi i ehangu ein gwaith gydag artistiaid o Gymru ar raddfa ehangach yn nigwyddiad mwyaf diwydiant cerddoriaeth y DU.”
Dywedodd Mace The Great: “Mae’n dda gweld cynrychiolaeth mor arbennig o Gymru yn ‘The Great Escape’ eleni. Bydd perfformiadau artistiaid Cymru yn rhai arbennig ac rwy mor falch o gael bod yn rhan o’r digwyddiad!”
Dywedodd Edie Bens: “Rwy’n gyffrous iawn ynghylch chwarae yn ystod The Great Escape eleni gan gynrychioli cerddoriaeth Gymreig mewn dinas rwy’n ei charu. Mae Gorwelion wedi fy nghefnogi cymaint yn ystod fy ngyrfa hyd yn hyn felly mae chwarae fel rhan o’u perfformiadau yn anrhydedd”.
Mae Gŵyl The Great Escape yn ddigwyddiad mawr o fewn y diwydiant cerddoriaeth ar gyfer cerddoriaeth newydd a doniau y’n dod i’r amlwg, gan arddangos tua 500 o artistiaid o bob cwr o’r byd, ar draws dros 30 o leoliadau mewn mannau cyfleus a hygyrch yn Brighton. Yn y gorffennol mae’r ŵyl wedi croesawu artistiaid fel Adele, Slaves, a Wolf Alice.
Yn ogystal â chyflwyno artistiaid newydd i bobl sy’n hoff o gerddoriaeth ac sy’n dymuno gweld artistiaid cyn iddynt ennill mwy o amlygrwydd neu berfformio mewn prif leoliadau a gwyliau mwy, mae The Great Escape hefyd yn cynnwys digwyddiadau ar gyfer y diwydiant cerddoriaeth, gigs cyfrinachol, a pherfformiadau ar y cyd sy’n digwydd ar hap.
Cymru Greadigol yw asiantaeth Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi twf y diwydiannau creadigol. Mae’r bartneriaeth hon gyda’r BBC, Gorwelion a Chlwb Ifor Bach yn rhan o waith Cymru Greadigol i feithrin talent ar draws sîn gerddorol Cymru ac i helpu pobl i ddatblygu gyrfaoedd llwyddiannus yn y diwydiant.
Yn ogystal â dau ddiwrnod o berfformiadau gan artistiaid Cymreig, mae Gorwelion hefyd yn gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol o Wlad Belg, yr Almaen, a Luxembourg ar gyfer perfformiad 4 gwlad sy’n cynnwys Lemfreck o Gymru.