Oed a Chardiau Adnabod

  • Oes cyfyngiad oed gan Glwb Ifor Bach?

    • Mae cyfyngiadau oed ar gyfer digwyddiadau byw yn amrywio; bydd cyfyngiad oed digwyddiadau penodol ar ein tudalen digwyddiadau. O dro i dro, gall gwybodaeth wahanol ymddangos ar wefan yr artist, yr hyrwyddwr neu'r wefan docynnau; bryd hynny, yr wybodaeth ar ein tudalen digwyddiadau ni sy'n gywir. Mae pob noson glwb yn 18+.
  • Pa gardiau adnabod ydych chi'n eu derbyn?

    • Gellir gofyn i unrhyw gwsmer ddangos cerdyn adnabod dilys wrth ddod i mewn i'r adeilad neu wrth y bar, felly rydyn ni'n argymell fod pob cwsmer yn dod â cherdyn adnabod a gaiff ei dderbyn. Rydyn ni'n derbyn y canlynol; - Pasbortau cyfredol - Trwyddedau gyrru â llun - Cardiau Adnabod sydd â'r hologram PASS Ni fyddwn yn derbyn unrhyw brawf o hunaniaeth sydd heb lun, na chardiau myfyrwyr. Dydyn ni ddim, o dan unrhyw amgylchiadau, yn derbyn lluniau o ddogfennau adnabod.

Ticketing Tocynnau

  • Ble alla i brynu tocynnau?

    • Y prif le i brynu'n tocynnau yw gwefan Ticketweb. Mae dolenni at wefannau tocynnau ar bob digwyddiad unigol ar ein gwefan. Dydyn ni ddim yn gwerthu tocynnau dros y ffôn, a does ganddon ni ddim swyddfa docynnau sydd ar agor yn ystod y dydd ar y safle.
  • Alla i brynu tocynnau wrth y drws?

    • Gallwch brynu tocynnau wrth y drws os nad yw'r sioe wedi gwerthu pob tocyn ymlaen llaw. Os yw pob tocyn ar gyfer sioe wedi gwerthu, bydd hynny wedi'i nodi ar y dudalen digwyddiadau.
  • Sut galla i gael tocyn os nad oes tocynnau ar ôl i'r digwyddiad?

    • Mae gan rai gwerthwyr tocynnau restrau aros, a gallwch ymuno â'r rhestr rhag ofn bod rhywun yn dychwelyd eu tocyn cyn y sioe.
  • Oes angen i fi argraffu fy nhocynnau?

    • Bydd gan pob e-docyn god QR, ac felly cyhyd â'ch bod yn gallu dangos y cod ar ffôn symudol i'r staff drws ei sganio, yna does dim angen i chi argraffu eich tocynnau. Os yw'r wefan docynnau wedi anfon copi caled o'r tocynnau i chi, dewch â rhain gyda chi.
  • Beth ddylwn i ei wneud os ydw i wedi colli fy nhocynnau?

    • Os anfonwyd copi caled o'r tocynnau atoch chi, a'ch bod wedi'u colli neu heb eu derbyn, cysylltwch â'r gwerthwr tocynnau i drefnu copïau eraill.
  • Alla i roi fy nhocyn i ffrind os na alla i ddod?

    • Os prynoch chi'r tocynnau ar Dice, yna gallwch eu trosglwyddo i ffrind drwy'r ap. Ar gyfer pob tocyn arall, bydd angen i chi ysgrifennu llythyr awdurdodi yn caniatáu i'r lleoliad ryddhau eich tocynnau i'ch ffrind. Mewn achos o'r fath, sicrhewch bod y person sy'n casglu'r tocynnau yn dod â cherdyn adnabod dilys gyda nhw.
  • Alla i ddim dod i ddigwyddiad bellach, alla i gael fy arian yn ôl?

    • Yn anffodus, allwn ni ddim cyfnewid, ad-dalu, trosglwyddo na dychwelyd tocynnau, oni bai bod y digwyddiad wedi newid yn sylweddol (lleoliad, dyddiad ac ati). Os yw'r digwyddiad wedi gwerthu pob tocyn, mae'n bosib y gallwch ryddhau'ch tocynnau i'r rhestr aros, yn dibynnu ar ba wefan y prynoch chi'r tocynnau.
  • Mae'r digwyddiad wedi'i ganslo, sut galla i gael ad-daliad am fy nhocyn?

    • Cyn gynted â bydd digwyddiad yn cael ei ganslo'n swyddogol, bydd yr asiantaeth docynnau'n cysylltu gyda chi gan ddefnyddio'r manylion y rhoddoch chi wrth archebu'ch tocynnau i egluro beth fydd yn digwydd nesaf. Os caiff y sioe ei hail-drefnu, yna bydd dewis gennych chi rhwng mynd i'r digwyddiad ar y dyddiad newydd, neu gael ad-daliad. Nodwch mai'r asiantaethau tocynnau sy'n gyfrifol am drefnu hyn, nid lleoliad y digwyddiad.

Polisi Drws a Gwisg

  • Oes gennych chi bolisi gwisg?

    • Does dim polisi gwisg ganddon ni, dewch fel ydych chi! (Cewch, fe gewch chi wisgo treinyrs).
  • Fyddwch chi'n archwilio fy eiddo wrth y drws?

    • Mae'n bosib y byddwn yn archwilio bagiau ac eitemau personol wrth y drws. Bydd unrhyw sylweddau anghyfreithlon, hylifau (gan gynnwys dŵr), ac unrhyw beth a all fod yn beryglus (gan gynnwys caniau aerosol) yn cael eu cymeryd oddi arnoch. Gallwn gadw sylweddau cyfreithiol a rhai nad ydyn nhw'n beryglus, a'u dychwelyd ar ddiwedd y noson.
  • Beth yw eich safbwynt ar gyffuriau?

    • Mae ganddon ni bolisi dim goddefgarwch i gyffuriau. Os byddan nhw'n cael eu canfod yn eich meddiant wrth ddod i mewn i'r clwb, byddan nhw'n cael eu cymryd a'u rhoi i'r heddlu. Os cewch eich dal yn cymryd cyffuriau ar y safle, byddwch yn cael eich hebrwng o'r safle ac o bosib yn cael eich gwahardd (trwy ddisgresiwn y Rheolwr Cyffredinol). Os cewch eich dal yn gwerthu neu'n dosbarthu cyffuriau, yna byddwch yn cael eich cadw yno a byddwn yn galw'r heddlu'n syth. Os ydyn ni'n amau eich bod o dan ddylanwad cyffuriau anghyfreithlon pan fyddwch ar y safle, yna byddwch yn cael eich hebrwng o'r safle. Gwneir hyn er eich diogelwch chi, diogelwch cwsmeriaid eraill ac aelodau o staff. Rydyn ni'n eich cynghori i beidio â gadael diodydd o'ch golwg, a byddwn ni'n taflu unrhyw ddiodydd sydd wedi cael eu gadael ar ôl.

Ystafell Gotiau ac Eiddo Coll

  • Oes ystafell gotiau gennych chi?

    • Oes - ond nid yw hi ar agor bob amser. Gwiriwch ymlaen llaw os oes angen yr ystafell gotiau arnoch chi. Mae hi ar agor ar gyfer nosweithiau clwb fel arfer, ond gall hyn newid ar fyr rybudd. Y gost yw £1 yr eitem. Nid yw Clwb Ifor Bach yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw eitemau a roddir yn yr ystafell gotiau.
  • Dw i wedi colli rhywbeth ar eich safle, beth ddylwn i wneud?

    • Ffoniwch Clwb Ifor Bach drwy 02920232199, a dilyn yr opsiynau ar gyfer Eiddo Coll. Byddwn yn gofyn i chi adael neges. Gadewch neges yn nodi'ch manylion cyswllt, disgrifiad o'r eitem(au) a gollwyd, a'r dyddiad roeddech chi ar y safle. Bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi. Dylech nodi nad ydyn ni'n gwrando ar negeseuon dros y penwythnos.
  • Ga i ddod â fy nghamera fy hunan?

    • Cewch, gallwch ddod â chamera nad yw'n un proffesiynol i'n sioeau.

Cyfleusterau Talu a Dychwelyd ar ôl Gadael

  • Alla i dalu â charden?

    • Gallwch dalu â charden wrth y drws ar gyfer pob sioe a gaiff ei hyrwyddo gan Glwb Ifor Bach. Ar gyfer sioeau a hyrwyddir yn allanol, dim ond arian parod byddwn ni'n ei dderbyn wrth y drws. I weld pwy sy'n hyrwyddo digwyddiad penodol, ewch i'r dudalen digwyddiadau. Rydyn ni'n derbyn taliadau â charden wrth bob bar. Nodwch nad ydyn ni'n derbyn American Express ar hyn o bryd.
  • Ydych chi'n cynnig gostyngiad i fyfyrwyr?

    • Mae gan pob noson glwb a gynhelir gan Glwb Ifor Bach ostyngiad ar y pris mynediad i fyfyrwyr. Bydd angen i chi ddarparu carden fyfyrwyr ddilys neu garden UCM. Ni dderbynnir Unidays. Ar gyfer nosweithiau a gynhelir gan hyrwyddwyr allanol, gwiriwch ar dudalennau'r digwyddiadau ar Facebook.
  • Os bydda i'n gadael, ga i ddod 'nôl mewn?

    • Mae'r polisi dychwelyd yn wahanol ar gyfer pob sioe, felly gofynnwch i staff y drws cyn i chi adael.

Amrywiol

  • Collais i fy llun o'r bŵth lluniau, ga i gopi?

    • Mae'r holl luniau o'r bŵth lluniau'n cael eu rhoi ar dudalen Facebook Clwb Ifor Bach yn ystod yr wythnos ar ôl y digwyddiad.
  • Tynnodd rhywun fy llun; ble galla i ddod o hyd iddo?

    • Os tynnodd un o'n ffotograffwyr ni eich llun, yna bydd yn cael ei osod ar dudalen Facebook y digwyddiad yn ystod y dyddiau ar ôl y digwyddiad.
  • Oes angen siarad Cymraeg i ddod i mewn?

    • Dydy hyn heb fod yn wir ers chwarter canrif erbyn hyn; rydyn ni'n safle cynhwysol, mae croeso i bawb, waeth pa iaith maen nhw'n ei siarad.
  • Ble alla i ddod o hyd i amseroedd setiau?

    • Fel arfer dydyn ni ddim yn gwybod beth yw amseroedd y setiau tan yn hwyr yn y prynhawn ar ddiwrnod sioe, ond bydd gwybodaeth am amseroedd agor a chau y digwyddiad ar gael ar y dudalen Facebook a'r dudalen digwyddiadau ar ein gwefan.
  • Alla i archebu bŵth preifat?

    • Does ganddon ni ddim ardaloedd y gallwch eu harchebu'n anffodus.