Photo of Cardiff band Clwb Fuzz playing at Sŵn Festival in 2019

Sŵn yn cyhoeddi digwyddiad misol i arddangos ein hoff artistiaid newydd

Newyddion Clwb Ifor Bach – 16/02/2022

Mi fydd Ysgol Nos yn lansio ar y 23ain o Chwefror gyda Deadletter, Clwb Fuzz, Blue Amber a DJ Kalisha Quinlan.

Ar ddiwedd y mis, bydd Sŵn yn dod â Deadletter, Clwb Fuzz, Blue Amber a DJ Kalisha Quinlan i Glwb Ifor Bach. 

Rhyddhaodd y grŵp Deadletter stomper post-punk, Pop Culture Connoisseur ar Nice Swan Records ym mis Tachwedd, mae’r gân yn adrodd stori tafod mewn boch am heddwas – gwrandewch yma.

Rydyn ni wedi gweld cyfres o senglau yn cael eu rhyddhau gan y band lleol Clwb Fuzz – pob un yn swnio’n well na’r un cynt. Mae eu sengl ddiweddaraf, Sertraline yn slyri o sŵn gorfoleddus a bachau gitâr yn gymysg ag alawon esgyn, sy’n atgoffa rhywun o synau My Bloody Valentine’s Loveless a Cocteau Twins. Ni allwn aros i’w wal o sain ein smacio yn ein hwynebau.

Mae Blue Amber yn cadw pob sengl yn gyffrous trwy beidio â chyfyngu eu hunain i un arddull neu steil o gerddoriaeth. Maent yn siglo’n ddiymdrech o beat poetry dros gerddoriaeth punk i indie melodig a meddal. Mae’r band yn frith o syniadau sonig bendigedig a byth yn ofni gwneud i’r syniadau hynny ddigwydd. Maen nhw’n swnio fel pobol sy’n gwneud pethau i ddigwydd. A ni’n hoffi pobol sy’n gwneud pethau i ddigwydd.

Bydd Kalisha Quinlan o Totally Wired yn DJ drwy’r nos, nid ydym yn gwybod beth i’w ddisgwyl, ond yn seiliedig ar ei sioe, bydd yn amrywio o berlau llychlyd hŷn i ddarganfyddiadau gwefreiddiol newydd.