Sengl Newydd Hyll ‘Womanby’

Playlist – 31/01/2019

Ni yn caru Hyll. Ers iddyn nhw chwaraeu gig cyntaf yn Clwb blynyddoedd yn ol, ni wedi bod yn gwirioni gyda’u pop mwynus, garage rock amrwd ag agwedd drygionus.

Ar ol rhyddhau eu EP cyntaf nhw nol yn 2017, mae’r band am rhyddhau sengl newydd sbon yn arbennig ar gyfer Dydd Miwsig Cymru ar yr 8fed o Chwefror! Womanby yw enw’r sengl, sy’n dathlu a trafod y stryd hudol yma (ni ddim yn biased, gaddo). Ma’ nhw’n cyfleu amser nodweddiadol y stryd a hanesion lot rhy gyfarwydd i veterans y stryd.

Ma’ gen i gwaith yn y bore…. Ma’ gen i gwaith yn y bore!” Ni’n gwbod y teimlad, Hyll.

Fel gweddill eu gwaith, mae’r sengl yma wedi’i recordio a’i rhyddhau gyda Mei Gwynedd ar Jigcal a ma’r gwaith recordio yn wych. Digon o 90’s fuzz cyflym,  fel bod Built To Spill wedi taflu gormod o jagerbombs lawr eu gyddfau ar Stryd Womanby dros y penwythnos. Da iawn Hyll. Chi’n wych.

Digon o ddisgrifiadau gwael o’r gân gan ni. Gwrandewch ar y sengl isod!