Penwythnos Ail-agor

Newyddion Clwb Ifor Bach – 29/07/2021

Ni mor gyffrous i allu cyhoeddi y byddwn ni’n ailagor ein drysau unwaith eto ar Ddydd Iau, Awst 12.

Ni mor gyffrous i allu cyhoeddi y byddwn ni’n ailagor ein drysau unwaith eto ar Ddydd Iau, Awst 12. DJ’s rheolaidd y llawr dop, GRLTLK fydd yn agor y noson gyntaf gyda’u parti indie disco mawr, delfrydol i unrhyw un sy’n gobeithio cario’r parti ymlaen ar ol gweld Foals yn y Castell.
 
Nos Wener, Awst 13, mi fyddwn ni’n croesawu bands byw yn ôl i’r adeilad gyda gig lansio EP newydd Hyll; mymryn, wedi’i gyflwyno gan Twrw. Daw cefnogaeth gan Papur Wal a Hana Lili. Daeth ye EP mas Ddydd Gwener ac mae’n gasgliad hyfryd o ganeuon sombre, doniol, introspective sy’n gweld sain a steil y band yn parhau i esblygu ac ail-lunio’u hun. Mae’r EP yn gwneud gwaith album mewn llai ’na 14 munud.
 
Yn dilyn y gig, rydym yn croesawu dychweliad mawr Nuke! Yn cael ei gynnal gan ein meistr pop, Dabes, mae Nuke yn cynnig popeth sydd angen ar gyfer y Nos Wener perffaith. Disgwyliwch caneuon o’r siart, throwbacks, clasuron a mwy.
 
Ar y llawr uchaf, mae Get Funky yn dod â brand unigryw ohouse & techno gan y DJ arloesol, Jasper James.
 
Dydd Sadwrn, bydd James & The Cold Gun yn gwneud eu sioe byw cyntaf erioed (na, ni methu credu hwn chwaith) yma yng Nghlwb Ifor Bach. Ymunwch â ni i fod y bobl gyntaf i fod yn dyst i’r hyn sy’n sicr o fod yn sioe uffernol o dda.
 
Rydyn ni’n dilyn y gig gyda’r union beth mae pawb wedi bod yn aros am – ein parti eiconig, 3 llawr gyda Dirty Pop, Mr Potter’s Proper Disco a GRLTLK. Pop, funk, indie, disco, r&b, rock, soul, electro a llawer mwy ar draws yr adeilad cyfan. Ni methu aros o gwbl.
 
Odd e’n hyfryd i sgwennu hwn i gyd lawr 👆
 
O ran ein polisi Covid-19 – ni’n mynd trwy popeth o fewn ein gallu i sicrhau ein bod ni’n cadw chi, staff a’n hartistiaid mor ddiogel â phosib. Mae’n cymryd peth amser, ond mae’n bwysig bod ni’n neud popeth yn iawn.
 
Byddwn yn cyhoeddi tudalen bwrpasol ar ein gwefan i amlinellu’r holl bethau rydyn ni’n eu gwneud i gadw’n ddiogel a byddwn ni’n cyhoeddi’r rhain ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol hefyd.