
O 11 Hydref ymlaen, bydd angen pàs Covid er mwyn mynd i bob digwyddiad yng Nghlwb Ifor Bach (gan gynnwys Gŵyl Sŵn) yn gyfreithiol os ydych chi dros 18 oed.
- Mae Pàs Covid yn caniatáu i chi ddangos tystiolaeth o un o’r canlynol:
– Eich bod wedi cael dau frechlyn yn erbyn Covid 19
– Eich bod wedi cael canlyniad Prawf Llif Unffordd negyddol yn y 48 awr diwethaf
– Bod gennych imiwnedd naturiol yn erbyn Covid 19
- Mae modd cael Pàs Covid (neu brawf o’ch statws Covid) drwy un o’r ffyrdd canlynol:
– Dull digidol fel Pàs Covid y GIG
– Copi caled o dystysgrif brechu (e.e. Llythyr Pàs Covid y GIG)
– Cadarnhad o brawf negyddol drwy neges destun neu e-bost.
– Allwn ni ddim derbyn y cardiau brechu sy’n cael eu rhoi mewn canolfannau brechu fel prawf o frechu.
- Y ffordd hawsaf o brofi eich statws Covid fyddai lawrlwytho Pàs Covid y GIG.
Mae modd cael mynediad at y pàs drwy ffôn clyfar, llechen neu gyfrifiadur, a bydd yn creu cod bar y mae modd ei ddarllen gyda pheiriant 2D. Yna, gallwch:
– Ei agor a’i ddangos ar ffôn
– Ei lawrlwytho i waled Apple neu Google
– Ei lawrlwytho fel dogfen PDF i’w dangos ar ffôn clyfar, sgrin llechen neu ei hargraffu gan y cwsmer
- Mae rhagor o wybodaeth am sut i lawrlwytho pàs Covid neu brofi eich statws brechu ar gael yma – https://llyw.cymru/pas-covid-y-gig-dangoswch-eich-statws-brechu
- Os oes gennych ffôn clyfar a’ch bod yn dymuno lawrlwytho’r pàs i’ch waled ddigidol, yna byddai’n haws gwneud y broses gyfan ar eich ffôn.
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dilyn pob cam o’r broses ddilysu, gan y bydd hyn yn cynyddu am ba mor hir bydd y pàs yn ddilys.
- Cadwch lygad ar y dyddiad dod i ben. Os yw’r dyddiad bron â dod i ben, cliciwch ar y ddolen uchod a mewngofnodi unwaith eto, ac os ydych chi wedi cael y ddau frechlyn, bydd yn cynyddu cyfnod dilys eich pàs yn awtomatig.
- Os ydych chi wedi cael dau frechlyn ac wedi gwneud y broses ddilysu lawn ar gyfer y Pàs, dim ond unwaith y mis y bydd angen i chi ddiweddaru’r cyfnod dilysu yma. Dim ond munud mae’n cymryd, ac mae’n syml iawn.
- Gwnewch hyn heddiw er mwyn osgoi ffwdan ar eich noson allan nesaf!
Cwestiynau Cyffredin i Bobl o du allan i Brydain
- Bydd angen i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd ddangos Tystysgrif Covid yr UE neu brawf llif unffordd negyddol er mwyn cael mynediad. Mae ap dilysu’r GIG yn gallu sganio Tystysgrif Covid yr UE.
- Bydd angen i ddinasyddion yr Unol Daleithiau ddangos cerdyn brechu Canolfan Rheoli ac Atal Clefydau yr Unol Daleithiau ynghyd â Cherdyn Adnabod, neu brawf llif unffordd negyddol, er mwyn cael mynediad.
- Bydd angen i bawb arall ddangos tystiolaeth o brawf llif unffordd negyddol.
Cwestiynau Cyffredin am Eithriadau
Mae Llywodraeth Cymru’n ymwybodol bod nifer fach iawn o bobl yng Nghymru yn methu â chael brechiad neu’n methu â gwneud prawf llif unffordd. Maen nhw’n gweithio i ddylunio a datblygu system ddigidol a fydd yn diweddaru’r Pàs Covid yn awtomatig, fel bod eithriadau’n cael eu cofnodi ar y system, a bydd y pàs yn dangos eu bod yn ddilys neu’n gymwys i fynd i mewn i safle neu ddigwyddiad.
Serch hynny, dydy hyn ddim ar gael ar hyn o bryd, ac mae’n annhebygol o fod ar gael erbyn 11 Hydref. Ar y sail yma, dylai’r safle neu’r digwyddiad gydnabod yr eithriad, a chaniatáu i’r unigolyn yna gael mynediad. Yn y sefyllfa yma, ni fydd angen i’r safle weld tystiolaeth o’r eithriad.