
Ma’ brif fynedfa Clwb erbyn hyn yn edrych fel groto Siôn Corn, a ni’n caru e. Ma’ pob club night nawr wedi’i lapio mewn tinsel a ma’r tunes Nadoligaidd yn atseinio o bob llawr. A ma’ hyd yn oed y criw marchnata wedi creu playlist ar gyfer y Nadolig amgen perffaith. Felly beth sydd ar ôl? Ni jyst angen penderfynu sut ni’n mynd i groesawi’r flwyddyn newydd ar ôl stwffio’n gwynebau gyda sprouts.
Ahhh 2019. Ni bach yn ofn ac yn peni am unrhyw beth i wneud gyda glweidyddiaeth, ooooond ma’ ‘da ni cwpl o gigs ANHYGS yn dod lan yng Nghaerdydd. Ólafur Arnalds, John Grant, Gilles Peterson, Get Cape, Hot 8 Brass Band, Audiobooks, Bodega, + a gymaint mwy i helpu chi anghofio am bopeth arall sy’n mynd ymlaen.
TA BETH…Nol i’r noson sy’n mynd i daflu ni mewn i’r flwyddyn newydd – Nos Galan.
Thema? Cowbois vs Robots. Ni ‘di gofyn i’n DJs hyfryd o nos Sadwrn – Dirty Pop, Mr Potter’s Proper Disco a The Clwb, The Bad and The Ugly – i’n diddanu ni dros y tri llawr. Ni hefyd yn mynd i addurno’r lle, fydd Clwb yn edrych yn class.
I gal chi yn y mood ac i gal caneuon Wham mas o’ch clustie am eiliad, dyma ein mixtape (trwy Spotify) Nos Galan. Casgliad o ganeuon gan ein DJs er mwyn paratoi ni ar gyfer y noson fawr. Ni hefyd wedi rhoi ambell i gan i neud gyda robots a cowbois, jyst achos ni gallu.
Clwb x