
Y TWMLAD, BEEETH YW Y TWMLAD? Siaradon ni gyda DJ Dilys i ffeindio allan pwysigrwydd y gan Betsan i hanes Cymru.
Fi’n cofio’r tro cyntaf, nes i glywed ti. Ges i twmlad sbeshal, yn ‘y mola i. Os chi heb ddyfalu’n barod, ydy, mae hoff anthem Cân i Gymru pawb – Eleri – yn cael ei rhyddhau yn ddigidol am y tro cyntaf ar Fawrth y cyntaf!
Saethodd enw Betsan i amlygrwydd yn 2017 yn un o’r moments yna lle ma pawb yn cofio’n union lle’r oedden nhw pan glywon nhw’r gan am y tro cyntaf. Ma’n gan hyfryd sy’n dathlu cariad, swsus, diwrnodau braf, a pobl o’r enw Eleri, ac mae dal i frifo fi i heddi fod y gan heb gyrraedd y brig! Ond – wrth ail-ryddhau’r gân ar ddydd Gwener, fi’n siwr gallwn ni gyd addo i rinso fe ar Spotify a troi Betsan a’i gwraig yn filionêrs.
Er bod ein ymdrechion i ail-enwi Dydd Gwyl Dewi yn Ddydd Gwyl Eleri wedi methu, mae dal lot i edrych ymlaen i dydd Gwener. Bydd Tom a fi (Dyl) yn Clwb o 7yh i ddathlu/sarhau rhai o artistiaid gorau/gwaethaf Cymru (lol joc, mae pawb yn dalentog iawn bla bla bla) felly DEWCH DRAW a fi’n siwr new ni…joio eich cwmni. GET IT, COS Y LYRICS?!
Dyl x
“Eleri yw un o anthemau Cân i Gymru dros y blynyddoedd diwethaf. Fi’n cofio criw o ffrindiau yn dod i Maes B yn yr Haf ar ôl i’r gân cael ei rhyddhau yn gyntaf, a nes i chware Eleri i nhw pan o’n i’n DJio— nath pawb fynd yn nuts! Mae’n catchy ac yn gân sy’n neud ti wenu.”DJ Elan Evans