
Dyma ein datganiad am sbeicio
Rydyn ni’n flin ac yn drist am yr cynydd mewn adroddiadau o sbeicio ledled y wlad, gan gynnwys Caerdydd.
Rydyn ni am i Clwb fod yn lle diogel i bawb deimlo’n gyfforddus i fwynhau. Mae’n drist iawn bod rhaid i unrhyw un hyd yn oed ofni’r trawma o gael ei sbeicio – heb sôn am fynd trwy’r profiad erchyll.
Hoffem ni wneud yn glir nad yw Clwb Ifor Bach yn cymryd y materion hyn yn ysgafn. Dyma restr o’r hyn sydd eisoes ar waith a rhestr o’r pethau rydyn ni’n eu rhoi mewn lle wrth symud ymlaen.
Yn Barod Mewn Lle:
- All staff educated to look out for dangerous behaviour and how to deal with it (more is being done about this – see next slide)
- Searches upon entry for all clubnights
- CCTV in all public areas of the building (except toilets) and bodycams provided for our security staff.
- Increased number of security since re-opening for all club events.
- Zero tolerance policy on drugs
- Anyone caught spiking customers at Clwb Ifor Bach will get a lifetime ban and we be reported to the police
- Mae’r holl staff nôs wedi cael eu haddysgu ar sut i gadw llygad am ymddygiad peryglus a sut i ddelio ag ef (mae mwy yn cael ei wneud ynglŷn â hyn – gweler y sleid nesaf)
- Chwiliadau wrth gael mynediad i bob noson clwb
- Mae CCTV yn cwmpasu holl rannau cyhoeddus yr adeilad (heb law am y toiledau) ac mae bob aelod o staff diogelwch yn gwisgo camerau corff
- Mae mwy o staff diogelwch yn gweithio gyda ni ers ailagor ar gyfer holl ddigwyddiadau’r clwb
- Polisi dim goddefgarwch ar gyffuriau
- Bydd unrhyw un sy’n cael ei ddal yn sbeicio cwsmeriaid yn Clwb Ifor Bach yn cael gwaharddiad am byth ac fe fyddwn yn galw’r heddlu
Beth fyddwn ni’n ei wneud wrth symud ymlaen:
- Bydd y staff nos i gyd yn derbyn hyfforddiant pellach sy’n delio’n benodol â materion yn ymwneud â sbeicio.
- Bydd y staff nos yn cael eu briffio i fod yn fwy ymwybodol o’r materion hyn a’u hatgoffa i gadw llygad am unrhyw ymddygiad amheus.
- Byddwn yn cynyddu amlder chwiliadau cyffuriau ar bob noson clwb.
- Rydym yn archebu stop tops, bydd rhain ar gael am ddim i unrhywun sy’n gofyn amdanyn nhw (mae aros am bythefnos am y rhain yn anffodus). Bydd posteri a chardiau o amgylch y lle i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’u argaeledd.
- Rydym yn cofrestru ar gyfer rhaglen Cardiff Safe Spaces gyda For Cardiff.
- Bydd posteri yn cael eu creu a’u rhoi yn y toiledau a’r cyntedd i hysbysu pobl ar sut i adnabod diod y ymyrrwyd â hi.
- Byddwn yn tynnu sylw at y pethau ni’n gwneud i gadw ein cwsmeriaid yn ddiogel ar ein sianeli cymdeithasol a’i bostio i fyny ar ein gwefan yn ogystal â rhoi arwyddion i fyny o amgylch yr adeilad. Rydym am sicrhau bod cwsmeriaid yn gwybod y gallant godi unrhyw faterion gyda aelod o staff.
- Os yw cwsmer yn credu bod eu diod wedi ei sbeicio, gofynnwn iddynt wneud aelod o staff yn ymwybodol a byddwn yn cael gwared y diod honno ar unwaith ag yn rhoi un newydd yn rhad ac am ddim i’r cwsmer. Fyddwn ni’n ymchwilio menw i’r sefyllfa ar unwaith.