
Mae Clwb Ifor Bach wedi mabwysiadu brand newydd i gynrichioli hanes a dyfodol cyffroes y cwmni.
Ers 2016 – mae Clwb Ifor Bach wedi bod yn hyrwyddo mwy a mwy o ddigwyddiadau yn allanol, tu fas i’n lleoliad, ar genhadaeth i gario ymlaen i weithio gyda artistiaid sy’n datblygu ar ddechrau eu gyrfa cyn datblygu i leoliadau mwy.
Ni wedi bod yn brysur yn cynllunio datblygiadau’r lleoliad ei hun hefyd – gallwch chi ddarllen am ein cynlluniau yma.
I gynrichioli hwn, mae’r stiwdio amlddisgybliaeth, Nissen Richards wedi dylunio brand newydd i ni fel gigfan, lleoliad a hyrwyddwr. Mae’r elfennau gwahanol yn clymu ein hanes ac ein dyfodol ag yn datrys y broblem sydd gyda ni fel gigfan yn hyrwyddo mewn gigfannau eraill!
Mae’r logomark yn seiliedig ar lasbrint o’n lleoliad presennol (y ddau petryal ar y dde) a’r adeilad drws nesaf fyddwn ni’n cymryd drosodd ar gyfer ehangu (y petryal ar y chwith). Mae’r logomark yn cael ei baru gyda logo teipograffig sy’n sillafu Clwb Ifor Bach mewn trychau gwahanol i gynrichioli’r amrywiaeth o bethau mae Clwb yn neud.
Mae’r brandio hefyd yn rhedeg drwy elfennau gweledol gwahanol y cwmni gyda set o bosteri templed newydd, gwefan a hyd yn oed stampiau mynediad. Drwy’r brand newydd, fe ffeindiwch chi gweadau amrywiol sydd wedi cael eu ffeindio o amgylch yr adeilad.
Mi roedd hi’n neud synwir i weithio gyda Nissen Richards ar y prosiect yma gan bod ni wedi bod yn gweithio’n agos gyda nhw ar ddylunio ein cynlluniau ehangu cychwynol.
Ni’n hapus iawn gyda’r gwaith ag yn edrych ymlaen i gymryd ein camau nesaf fel cwmni gyda’r brand newydd.