
Yn gyntaf – cwestiwn: pwy ffwc yw ReuVival a pam ei bod nhw’n chwarae ar Nos Wener Tafwyl yn Clwb Ifor Bach?
ReuVival yw’r enw mae Gareth Potter a Mark Lugg (Tŷ Gwydr) yn galw eu band byw dyddie hyn ac mae nhw’n awesome…
“Ond DJs ydyn nhw – nes i weld nhw yn Steddfod Caerdydd…”
Ie, ond mae na llawer mwy iddyn nhw na mixo vinyl, CDs neu MP3s ac mae nhw am ddangos hyn i chi gyda’r sioe byw…
“Ond…”
Jest cia dy ben a gwrando ar rhain – dwsin o resymau dros peidio colli un o gigs mwya unigryw y sin eleni:
- LEGENDARY STATUS. Mae nhw wedi bod yn rhan o’r sin ers ganol yr 80au pan ffurfiwyd Traddodiad Ofnus ganddynt yn Brighton ym 1984. Mae ganddynt tri o draciau ar y casgliad chwildroadol GADAEL YR UGEINFED GANRIF (1985) ar label Anhrefn, ochr wrth ochr gyda Datblygu a’r Anhrefn.
- WELSH TOURIST BORED – rhyddhawyd yr album Traddodiad Ofnus yma gan y label Almaeneg ‘Constrictor’ yn 1987, ac yn ôl Rhys Mwyn, mae’n un o albums Cymraeg coll grau erioed. Mae ReuVival yn mynd i ganu tair o’r caneuon ohoni am y tro cyntaf ers yr 80au!
- MAE NHW’N FFYCIN CWL – ie, falle bod new’n hyn na dy rieni, ond Mark Lugg oedd un o’r bobol cyntaf i gymysgu celf a pherfformio mewn band drwy dylunio a gwerthu cryse t i’r band ar eu label ddillad AFIACH. Ar yr un adeg, roedd yn amhosib fynd i gig Cymraeg heb weld o leia hanner dwsin o hipsters yn y dorf yn gwisgo crysau lliwgar Lugg.
- METEL! Na, dim miwsig trwm y pendoncwyr, ond offerynnau taro wedi’u ddwyn o sgips a iardiau sgrap. Roedd Traddodiad Ofnus yn defnyddio’r synnau i greu rhyddmau trawiadol ac mi fydd ReuVival yn ail gydio yn yr ymarfer hwn…
- POP NEGATIF WASTAD – ar ôl gadael Traddodiad Ofnus, newidodd Gareth Potter ei gyfeiriad i fod yn rhan o PNW gydag Esyllt Anwyl. Yn ddiweddar fe ail-ryddhaodd Ankst eu LP drwy PYST – ac mae’r caneuon yn swnio mor ffresh ag erioed. Dyma un o recordiau electro-pop Cymraeg gynta’ i gael ei ryddhau ac mi fydd ambell gân yn rhan o sioe ReuVival.
- Ffans cwl – mae brenhines electronaidd Cymraeg a Chernaweg, Gwenno yn ffan ac mae setiau DJ gan seren Y Dydd Olaf yn aml yn cynwys caneuon fel Welsh Tourist Bored neu Kerosene.
- Erbyn dechrau’r 90au fe ddaeth perfformiadau Ty Gwydr yn chwedlonol. Acid House, beats electronaidd a T E Ch N O yn cyflylyru y llawr ddawnsio gyda gwledd i’r glust a’r llygaid, a phawb ar y sin yn darganfod yr elfen dawns yn eu caneuon.
- CEDWYN REU – y gymeriad cartŵn ddaeth yn fyw yn nosweithiau Clwb Reu.
- NOSON CLADDU REU – Datblygu, Wwwzz, Beganifs a pherfformiad cyntaf grwp o’r enw Diffiniad. Gyda Tŷ Gwydr wrth gwrs mewn rave anferth ym Mhontrhydfendigaid.
- Sgrifennodd a pherfformiodd Gareth Potter y sioe lwyfan Gadael yr Ugeinfed Ganrif fel llythr caru at y genhedlaeth a newidiodd Cymru a’i miwsig am byth. Addaswyd y sioe mewn i ffilm rymus ar gyfer S4C yn 2014.
- Mae’r band byw yn cynnwys aelodau o Yr Ods, Twinfield, Topper, Clustiau Cŵn a Hanner Pei. Mae nhw’n mynd i fod yn amazing!
- DYDYN NHW DDIM YN HIDIO FFWC – ac mae hyn yn gwneud yr holl syniad o gig ganddynt yn fwy cyffroes byth. Jest prynwch docen i chi, a’ch hoff berson i fynd mas gyda, a DEWCH! Da chi rili ddim am golli hwn…
Hawlfraint Jenny Rhyfeddod 2019