Swydd: Cynorthwyydd Swyddfa

Newyddion Clwb Ifor Bach – 18/11/2021

Ni’n chwilio am cynorthwyydd swyddfa i ymuno a’r tîm!

Lleoliad cerddorol llawr gwlad sefydledig yng nghanol Caerdydd yw Clwb Ifor Bach, ac mae wedi bod yn gartref i artistiaid newydd a’r rhai sy’n dod i’r amlwg ers dros 35 mlynedd. Dros y chwe blynedd ddiwethaf, rydyn ni hefyd wedi bod yn un o hyrwyddwyr annibynnol mwyaf blaenllaw Caerdydd, yn trefnu sioeau ledled y wlad, rhaglennu cerddoriaeth fyw ar gyfer digwyddiadau, ynghyd â chynnal yr ŵyl aml-safle yng nghanol y ddinas, Gŵyl Sŵn. 

Ym mis Ebrill 2021, fe lansion ni Clwb Music, sef grŵp cerddoriaeth annibynnol sy’n cynnwys label recordiau, tîm rheoli a chwmni cyhoeddi, gyda’r nod o ddatblygu a chydweithio gydag artistiaid o Gymru.

O ganlyniad i gynnydd yng ngweithgarwch y cwmni yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a’n cais llwyddiannus diweddar i ddod yn elusen, rydyn ni nawr yn chwilio am Gynorthwyydd Swyddfa i ymuno â’r tîm.

Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch CV a llythyr eglurhaol i guto@clwb.net erbyn 5pm, dydd Gwener 3 Rhagfyr.

Lawrlwythwch y disgrifiad swydd llawn yma.