Sut I Ynganu ‘Clwb Ifor Bach’

Cyfweliad – 04/04/2018

Yn aml, mae pobl yn gofyn i ni sut mae ynganu Clwb Ifor Bach. Mae Wikipedia wedi trio helpu wrth sillafu ein enw yn ffonetig gyda ˈklʊb ˈivɔr ˈbaːχ. Ond does dim syniad gyda ni sut i ddarllen hwnna.

Felly, fe benderfynnom i gael ein artist llais mewnol (sydd hefyd yn gynorthwydd marchnata & gweinyddol), Elan Evans i recordio sut i ynganu’r enw.

Gobeithio neuth hwn helpu, ag os ffeindiwch hi’n anodd, fyddwn ni dal yn gwerthfawrogi unrhywun sy’n trio.