Alffa am ryddhau’r albym gyntaf

Playlist – 05/11/2019

Rhyddhawyd eu sengl Saesneg 1af ‘Full Moon Vulture’ ym mis Gorffennaf gan amlygu’r ffaith y byddai’r albwm sydd i ddod yn ddwyieithog.

Alffa – enw addas ar gyfer band sydd wedi cyflawni cymaint o gampau mewn cyfnod mor fyr. Ar hyn o bryd yn eu harddegau yn unig, nhw oedd artist cyntaf i gael trac yn yr iaith Gymraeg i gyrraedd miliwn o ffrydiau ar Spotify, ar hyn o bryd mae ‘Gwenwyn‘ dros 3m ac mae sengl Gymraeg arall y band a ryddhawyd wedi hynny o’r enw ‘Pla‘ hefyd wedi cyrraedd miliwn.

Mae ‘Rhyddid o’r Cysgodion Gwenwynig / Freedom from the Poisonous Shadows’ yn baradwys o riffs cyfarwydd, roc trwm, mor syml a mor syfrdanol. Mae curiadau’r drymiau fel trannau sy’n ategu at synau gitâr tew sy’n eich taro fel dwrn. Ond mor syml ag y mae’n swnio, mae’r bobl ifanc hefyd yn delio gydag amrywiaeth o bynciau’n ystod yr albym, o gariad, i dynged, a hyd yn oed y ffaith mai hunanladdiad yw prif achos marwolaeth i ddynion dan 45 oed.

Ddwy flynedd yn ôl roedd Alffa yn ymarfer mewn festri eglwys yn Llanrug ger Caernarfon, cafodd y band lif cyson o lwyddiant – ennill Brwydr y Bandiau ‘Maes B’ Eisteddfod Cenedlaethol Cymru, ymuno â label Recordiau Côsh, derbyn cefnogaeth aruthrol gan Spotify – maent heddiw ar drothwy rhywbeth mawr. Byddai’n hawdd i’r hogiau i adael yr hyn maent wedi’u cyflawni fynd i’w pennau, ond ar hyn o bryd mae’r ddau â’u traed yn gadarn ar y ddaear ac yn astudio Cynhyrchu Sain a Cherddoriaeth ym Mhrifysgol John Moores yn Lerpwl.
Mae Dion a Siôn wedi bod yn awyddus iawn i ryddhau eu halbwm, prin yn gallu aros nes bod y torfeydd sy’n dod i’w gweld yn eu sioeau byw niferus yn clywed y traciau newydd. Cafodd y band flwyddyn ffrwythlon o gigio, yn cynnwys sioeau cofiadwy gig anhygoel yn The Great Escape, noson hyfryd gyda’u ffan enfawr Michael Sheen yng Nghwpan y Byd Digartref, gan orffen yr haf gyda gig bythgofiadwy yng Ngŵyl Sŵn Caerdydd.
Bydd Alffa yn lansio’r albym newydd dros 3 dyddiad:
29.11 Tŷ Glyndŵr, Caernarfon