
Ar ôl creu twrw yng Ngŵyl Sŵn ym mis Hydref, bydd yr hwrs yn lawnsio ei halbym newydd yng Nghlwb Ifor Bach ar 6 Rhagfyr.
Mae albwm newydd 3 Hwr Doeth yn gymysg newydd o ganeuon bygythiol, gwleidyddol ag hyd yn oed rhywiol gyda ddychweliad telynegol Brochwel Ysgithrog, Jac Da Trippa, BOI MA ag yr Arch Hwch. Mae’n hefyd cynnwys rapwyr newydd fel DJ Dilys, Basdich, Dr Slingdick, Gruff Lynch a mwy. Wrth dargedu’r heddlu, social media, mamau-gu, vaniau melyn a biji-bo’s does yna neb yn chael hi’n hawdd gan y hwrion, a gyda Brochwel a’r Sleb OG yn cynhyrchu mae’r beats yn well na erioed.
Mae tocynnau i gig lansiad yr albym newydd ar gael yma.
Gwyliwch y fideo newydd islaw.