
Mae hi’n Ddydd Gwyl Dewi a ni’n dathlu yn Clwb Ifor Bach heddiw drwy wrando ar yr artistiaid o Gymru sydd wedi bod yn arbrofi gyda synnau a wedi llwyr anwybyddu unrhyw ffiniau cerddorol neu creadigol.
Dyma playlist o gerddoriaeth mawr a dewr o’r wlad bach mawr yma.
O’r synnau gwerin rhydd a jazzy o album newydd Lleuwen a drone pop Farm Hand i swnweddau (soundscapes!) electroneg Plyci a stoner jams doomaidd Mammoth Weed Wizard Bastard gyda llond llaw o icons amlycaf cerddoriaeth Cymru fel Datblygu, John Cale, Gwenno a David Wrench.