
CLWB IFOR BACH, CAERDYDD, WEDI CYFLWYNO CAIS CYNLLUNIO AR GYFER PROSIECT AILDDATBLYGU UCHELGEISIOL AR ÔL 40 MLYNEDD EICONIG YN Y DIWYDIANT CERDDORIAETH
Mae’r lleoliad llawr gwlad ar gyfer cerddoriaeth yn bwriadu ehangu a diweddaru ei safle presennol; gan greu safle cyfoes, cwbl hygyrch, i gynyddu ymgysylltiad ac i ehangu ei weithgarwch yn unol â’i amcanion elusennol. Ymgyrch codi arian wedi’i lansio i gefnogi’r ailddatblygiad.
Mae cais cynllunio newydd wedi cael ei gyflwyno i gynyddu maint safle eiconig Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd, ac i drawsnewid y gofod yn safle aml-ystafell cwbl hygyrch newydd sbon. Mae gan y lleoliad ddeunaw mis i godi’r arian i wireddu ei uchelgais.
Bydd y cynigion a gyflwynwyd i Gyngor Sir Caerdydd yr wythnos yma yn golygu y bydd Clwb Ifor yn cymryd yr adeilad adfeiliedig drws nesaf ac yn ei uno â’r safle presennol ar Stryd Womanby i ehangu ei ddarpariaeth ddiwylliannol a chreu mwy o gyfleoedd i bobl yng Nghymru.
Beth mae’r cynlluniau’n ei gynnwys?
Bydd yr ailddatblygiad yn caniatáu i Glwb Ifor gynnal perfformiadau a digwyddiadau ar raddfa fwy, diolch i ofod newydd â chapasiti i 500 o bobl, sy’n llenwi hen fwlch yn narpariaeth cerddoriaeth fyw bresennol y brifddinas. Bydd hefyd yn cynnwys ystafell â chapasiti i 200 o bobl, er mwyn sicrhau cefnogaeth barhaus i gerddorion newydd yn ystod camau cynnar eu datblygiad artistig.
Gan ddathlu deugain mlynedd yn ei gartref ar Stryd Womanby, bydd dyluniad y safle newydd yn cadw cymeriad, swyn a threftadaeth Clwb Ifor, gan ei foderneiddio a’i ddiogelu ar gyfer y dyfodol a chenedlaethau i ddod, gyda hunaniaeth newydd wedi’i chrefftio gan y stiwdio ddylunio Nissen Richards.
Mae’r cynlluniau’n golygu y bydd modd i’r safle ehangu cyrhaeddiad ac effaith ei amcanion elusennol. Cymerodd Clwb Ifor Bach y cam naturiol o ddod yn Elusen Gofrestredig yn 2019 ar ôl degawdau o gynnig man cychwyn i lawer at y diwydiant creadigol – a hynny ar y llwyfan a thu ôl i’r llen. Mae Clwb Ifor yn ymroddedig i wella cyfleoedd i gynulleidfaoedd iau, ac mae’n cefnogi technegwyr, hyrwyddwyr, perfformwyr, ffotograffwyr a mwy sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd. Erbyn hyn, mae eu gwaith yn mynd y tu hwnt i raglennu digwyddiadau cerddoriaeth, ac maent bellach yn datblygu cynulleidfaoedd, artistiaid, sgiliau a chymuned. Bydd yr ailddatblygiad yn helpu i gynyddu graddfa’r gwaith yma.
Sut gall pobl gefnogi?
Mae heddiw’n nodi carreg filltir allweddol, wrth gyflwyno’r cais cynllunio. Serch hynny, mae taith hir o’n blaenau er mwyn gwireddu’r prosiect yma, yn enwedig o ystyried pwysau chwyddiant a’i effaith ar y gost ers i’r dyluniadau cysyniadol cyntaf gael eu cyhoeddi ar ddechrau 2019.
Er mwyn gwneud yr adeilad newydd a’r ail-osod yn bosib, mae Clwb Ifor yn galw ar ei gefnogwyr i gefnogi’r prosiect yma, a helpu i’w wireddu. Mae ganddo ddeunaw mis i godi’r arian sydd ei angen, a bydd yn archwilio pob llwybr cymorth posib yn ystod y cyfnod yma er mwyn symud y prosiect yn ei flaen.
Meddai Guto Brychan, Prif Weithredwr Clwb Ifor Bach: “Mae cryn dipyn o amser wedi bod ers i ni ryddhau’r dyluniadau cysyniadol ar gyfer yr ailddatblygiad ’nôl ar ddechrau 2019, ac mae gallu cyflwyno’r cais cynllunio o’r diwedd yn teimlo fel cam mawr ymlaen.
“Rydyn ni’n dathlu pen-blwydd Clwb Ifor yn ddeugain eleni, ac rydyn ni eisiau atgoffa pobl ers pryd rydyn ni wedi bod yma, a pha mor bwysig ydyn ni i’r gymuned ac i fywyd diwylliannol Caerdydd.”
Diddordeb gwneud rhodd?






Ers agor yn 1983, mae’r safle cerddoriaeth eiconig wedi helpu artistiaid o Gymru fel Stereophonics, Boy Azooga, Gwenno, Super Furry Animals a llawer mwy yn ystod camau cynnar eu gyrfaoedd. Mae wedi cynnig cyfleoedd i filoedd o artistiaid newydd ddatblygu eu crefft o flaen cynulleidfaoedd llai – gydag artistiaid byd-enwog fel Coldplay hyd yn oed yn camu i’r llwyfan yno.
Mae ffigurau cyn y pandemig a gasglwyd gan UK Music yn amcangyfrif bod cerddoriaeth fyw wedi denu 440,000 o ymwelwyr i Gymru yn 2019, a’u bod wedi gwario £143 miliwn a chefnogi 1,843 o swyddi yn uniongyrchol. Mae Clwb Ifor Bach yn awyddus i barhau i ddenu mwy o artistiaid a chynulleidfaoedd o bob rhan o Gaerdydd a’r tu hwnt, i helpu i hybu economi greadigol Cymru. Mae’r ailddatblygiad hefyd yn cefnogi gweledigaeth strategaeth barhaus Cyngor Caerdydd, sef gosod cerddoriaeth wrth wraidd dyfodol y brifddinas fel ‘Dinas Gerdd’ gyntaf gwledydd Prydain.
Ychwanegodd Guto Brychan: “Hoffen ni ddiolch i Gyngor Caerdydd am eu cymorth yn sicrhau’r safle drws nesaf, oedd yn ffactor allweddol wrth symud y cynlluniau yn eu blaen.
“Mae ffordd hir o’n blaenau ni’n dal i fod, yn enwedig o ran sicrhau digon o gyllid, ond rydyn ni’n hyderus y bydd ein cynlluniau i wella Clwb Ifor Bach ar gyfer artistiaid a chynulleidfaoedd y dyfodol yn gonglfaen i isadeiledd cerddoriaeth fyw y brifddinas am flynyddoedd i ddod.
“Nid yn unig bydd y safle’n adeiladu ar ein treftadaeth, bydd yn cyfrannu at ein cymuned, at economi Cymru, ac at hanfod bywyd yng Nghymru.
“A bydd yn chwarae rôl hollbwysig wrth wneud Caerdydd yn ddinas gerddoriaeth a gaiff ei chydnabod yn rhyngwladol, yn brifddinas i wlad y gân. Mae’n bryd rhoi cartref newydd i gerddoriaeth Cymru.”
Mae Clwb Ifor Bach wedi treulio’r deugain mlynedd diwethaf yn cyfrannu at lesiant diwylliannol cynulleidfaoedd o Gaerdydd, Cymru, a thu hwnt. Trwy leoliadau cerddoriaeth annibynnol a llawr gwlad mae llawer o bobl yn cael eu profiadau cyntaf o wylio cerddoriaeth fyw neu’n gweithio yn y sector creadigol a’r celfyddydau. Bydd yr ailddatblygiad yma’n caniatáu i’r safle barhau i gynyddu’r effaith yma.
Mae’r ailddatblygiad yn dibynnu ar gyllid i sicrhau bod safle newydd anhygoel sy’n rhoi’n ôl yn cael ei gyflawni. Drwy gyfrannu at y prosiect yma, gallwch helpu Clwb Ifor Bach i barhau i gefnogi diwylliant Cymru, y Gymraeg, a’r celfyddydau, nawr ac yn y dyfodol.
Cefnogwch ailddatblygiad Clwb Ifor Bach yma.