New Job: Technical Officer

Newyddion Clwb Ifor Bach – 02/02/2022

Ni’n chwilio am ddau swyddog technegol i ymuno a’r tîm!

Lleoliad cerddorol llawr gwlad sefydledig yng nghanol Caerdydd yw Clwb Ifor Bach ac mae wedi bod yn gartref i artistiaid newydd a’r rhai sy’n dod i’r amlwg ers dros 35 mlynedd. Dros y chwe blynedd ddiwethaf, rydyn ni hefyd wedi bod yn un o hyrwyddwyr annibynnol mwyaf blaenllaw Caerdydd, yn trefnu sioeau ledled y wlad, rhaglennu cerddoriaeth fyw ar gyfer digwyddiadau, ynghyd â chynnal yr ŵyl aml-safle yng nghanol y ddinas, Gŵyl Sŵn. 

Ym mis Ebrill 2021, fe lansion ni Clwb Music, sef grŵp cerddoriaeth annibynnol sy’n cynnwys label recordiau, tîm rheoli a chwmni cyhoeddi, gyda’r nod o ddatblygu a chydweithio gydag artistiaid o Gymru.

O ganlyniad i gynnydd yng ngweithgarwch y cwmni yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a’n cais llwyddiannus diweddar i ddod yn elusen, rydyn ni nawr yn chwilio am ddau Swyddog Technegol i ymuno â’r tîm. Y swyddogion hyn fydd yn gyfrifol am holl weithrediadau technegol y safle; gan gynnwys systemau PA a Goleuo, gwaith cynnal a chadw’r adeilad, technoleg gwybodaeth a chydymffurfiaeth â rheoliadau Iechyd a Diogelwch perthnasol.

Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch CV a llythyr eglurhaol i guto@clwb.net erbyn 5pm, dydd Gwener 25 Chwefror 2022.

Cliciwch yma ar gyfer y swydd ddisgrifiad llawn.