Swn Festival 2021 Cardiff

Mae Gŵyl Sŵn 2021 yn mynd yn ei flaen!

Newyddion Clwb Ifor Bach – 16/08/2021

Gwyl Sŵn yn cyhoeddi 56 enw ar gyfer lein-yp yr ŵyl eleni, gan gynnwys: Sinead O Brien, Lynks, Anna B Savage, The Lounge Society a Coach Party.

Ddydd Gwener, cyhoeddodd Sŵn y bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal eleni. Bydd yr ŵyl eleni ar raddfa llai, yng nghanol y ddinas yn digwydd yn gyfan gwbl ar Womanby Street, calon sîn gerddoriaeth fyw Caerdydd rhwng Hydref 15 – 17.

Heddiw, mae Sŵn yn cyhoeddi y don cyntaf o artistiaid fydd yn chwarae.

This year’s festival might be scaled back, but we’ll still be keeping to our promise of delivering a weekend jam packed full of exciting new discoveries. Cardiff has missed out on some brilliant new acts due to the lack of touring and live events, and this year’s line up will be packed with as many of those new gems as we can fit in (as well as some special surprises).

– Adam Williams, Head Of Music

Ar ol gwerthu mas gigs ledled y DU, ag wedi ffeindio cefnogaeth gan The Guardian, Loud & Quiet, DIY, NME, Jack Saunders a hyd yn oed Elton John, mae Lynks (a elwid gynt yn Lynks Afrikka) yn barod i gymryd drosodd, a dinistrio unrhyw beth sy’n mynd yn eu ffordd.

Mae Anna B Savage yn un o’r enwau ar y lein-yp sydd wedi bod yn ymddangos o gwmpas y lle fwyfwy dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae hi’n cyfansoddi alawon pop cyfareddol llawn swyn wrth gwmpasu themâu myfyriol gyda thelynegiaeth dywyll a thryloyw. 

Ar ol treulio’r cwpwl o flynyddoedd diwethaf yn profi i bawb ei gallu gyda geiriau, mi fydd Sinead O’Brien yn dychwelyd i Gaerdydd, gan ddod â ei post-punk gafaelgar â ffocws telynegol gyda hi.

Bydd cyfle i chi gamu mewn i fyd BABii – artist amlddisgyblaethol electronig sy’n defnyddio elfennau o synau synthpop, electro, R&B a cherddoriaeth ddiwydiannol. Artist blaengar, gyda sain wirioneddol unigryw ac uchelgeisiol.

Mi fydd Enola Gay yn dod a’u roc swnllyd ag ymosodol gwleidyddol i’r brifddinas.

Disgwyliwch indie rock fuzzy, psychedelia heulog a garage rock gan y band newydd o Calder Valley, The Goa Express.

Pedwarawd sydd wedi dod i’r amlwg yn ddiweddar a sy’n dod i ymweld a Sŵn yw Coach Party, gyda’u geiriau ffraeth a riffs heintus.

Ers recordio a rhyddhau gyda Speedy Wunderground, mae’r band post-punk o Orllewin Swydd Efrog, The Lounge Society wedi ffrwydro – ni’n edrych ymlaen i ddal eu perfformiad dwys a candryll ar y llwyfan o’r diwedd.

Mi fydd y sîn lleol yn parhau i fod â phresenoldeb cryf yn yr ŵyl fel yr arfer.  

Fe gyrhaeddod XL Life y sîn gyda sblash anferthol yn 2020 gyda’u hardcore power punk, fydd yn berffaith i dystio yn fyw. 

Ar ôl gwerthu mas gig lansio eu EP newydd nhw yn Clwb Ifor Bach yn mis Awst, mae Hyll yn barod i ddwyn calonnau mwy o bobl Hydref yma gyda’u cymysgedd swynol o indie rock sensitif a hiwmor sych. 

Dim ond cwpwl o gigs chwaraeodd Panic Shack cyn i nhw chwarae Sŵn am y tro cyntaf yn 2019, ag ers hynny mae’r band wedi tyfu i fod yn un o enwau mwyaf cyffrous Cymru, yn barod i gymryd dros y byd gyda’u punk beiddgar a dyrchafol.

Mae ennillydd Green Man Rising eleni, Teddy Hunter am ddod a’i seinweddau etheraidd i Sŵn eleni.

Ni’n edrych ymlaen i weld Alice Low ar ol iddi rhyddhau ei sengl cyntaf, ‘Laddydaddy’, yn mis Mai, oedd yn roller coaster pop, 14-munud o hyd. 

Act arall o Gaerdydd sydd heb chwarae yn fyw o’r blaen ond sy’n gaddo pethau arbennig yw Pigeon Wigs – fydd yn rhoi bywyd i’w swynion bythol, carismatig. 

Mae tocynnau ar werth nawr.

Artistiaid:
Clara Mann, Clwb Fuzz, Coach Party, Dead Method, Deadletter, deep tan, Eädyth, Enola Gay, French Alps Tiger, George Cosby, Hamish Hawk, Han L A, Hana Lili, Holiday Ghosts, Honeyglaze, Hyll, John Myrtle, Lady Bird, LARRY PINK THE HUMAN, Lice, Live, Do Nothing, Lynks, Martha Gunn, Melin Melyn, Naima Bock, Panic Shack, Papur Wal, Pigeon Wigs, Pys Melyn, Real Lies, Red Telephone, Rhodri Brooks, Rona Mac, Sam Barnes, SHLUG, Shreddies, Sinead O’Brien, Sister Wives, Speedboat, SYBS, Teddy Hunter, Thallo, The Bug Club, The Goa Express, The Lounge Society, Tiger Bay, Wooze, XL Life

Gigfannau:
Clwb Ifor Bach, Fuel, The Moon, Tiny Rebel.