Gair o ddiolch i Gyngor Celfyddydau Cymru

– 10/07/2020

Hoffwn ddiolch i Gyngor Celfyddydau Cymru a’r Loteri Genedlaethol am wobrywo Clwb Ifor Bach gyda grant o’r Cronfa Ymsefydlogi i Sefydliadau.

Mae’n siŵr erbyn hyn eich bod chi wedi gweld yr ymgyrchoedd yn uwcholeuo’r argyfwng sy’n wynebu nifer o gigfannau a busnesau celfyddydol ar draws y wlad yn ystod yr amseroedd o ansicrwydd digynsail yma. Er bod cyfyngiadau’r cloi lawr yn dechrau llacio, mae parhad y canllawiau cadw pellter cymdeithasol wedi golygu bod hi’n anhyfyw yn ariannol i ni ail-agor. Rydym ni’n bell i ffwrdd o ddiwedd y pandemig, ac felly hoffwn sicrhau ein bod yn hyderus wrth ail-agor, y gallwn gynnal amgylchedd diogel i’n staff, perfformwyr a chwsmeriaid. Rydym  yn hynod o ddiolchgar felly i Gyngor Celfyddydau Cymru am gefnogi’n cais i’w Gronfa Ymsefydlogi i Sefydliadau (ariannir gan y Loteri Genedlaethol) er mwyn ein helpu trwy’r cyfnod caled yma.

Mae Clwb Ifor Bach wedi bod yn rhan hanfodol o gymuned greadigol Caerdydd am dros 35 mlynedd, ac wedi sementio’i lle fel un o gigfannau arweiniol llawr gwlad Cymru, yn darparu llwyfan ar gyfer artistiaid newydd sy’n dod i’r amlwg o Gymru ac yn bellach. Rydym wedi gwneud hyn heb yr angen am gymorth ariannol craidd; yn lle, fel sefydliad dielw, rydym wedi cefnogi’n rhaglen o ddigwyddiadau trwy ail-fuddsoddi unrhyw warged ariannol o’n ffrydiau refeniw. Daeth y ffrydiau yma i stop sydyn yng nghanol mis Mawrth, fodd bynnag ni stopiodd ein costau craidd. Bydd yr arian a ddarparir gan y Cyngor Celfyddydol yn helpu i leihau baich y costau craidd yma, a galluogi siawns i frwydro i oroesi’r argyfwng. Mae’r grant hefyd wedi’n galluogi i edrych ar ffyrdd newydd i ymgysylltu a’n cynulleidfa trwy sianeli digidol gyda lansiad y gyfres Sesiynau Sul.


Mae’r Sesiynau Sul yn gyfle i artistiaid lleol i ddefnyddio’n platfform o dros 66,000 dilynwr i chwarae’n fyw a hyrwyddo’u gwaith eu hunain, tra hefyd yn diddanu’n cynulleidfaoedd. Ers diwedd mis Mawrth, mae 14 artist o Dde Cymru wedi chwarae’n fyw ar ein Instagram bob bore Sul, yn dod a chysur a rhyw lefel o normalrwydd dros gyfnod y cloi lawr. Mae’r sesiynau hefyd wedi bod yn gyfle i’r cynulleidfaoedd cael profiad cwbl newydd o’u hoff artistiaid, profiad efallai na fyddai’n bosib mewn sioe fyw.

Diolch i’r Gronfa Ymsefydlogi i Sefydliadau, mi fydd y gyfres yn parhau, ynghyd â’r gefnogaeth ychwanegol i Clwb Ifor Bach, ei phobl, a’i chymuned.

Mae’r Loteri Genedlaethol yn chwarae rôl bwysig mewn cefnogi pobl, prosiectau a chymunedau yn ystod yr amser caled yma, ac rydym yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth a ddarparir i ni yn ystod yr amseroedd digynsail yma.

Am unrhyw gwestiynau neud sylwadau pellach, cysylltwch â post@clwb.net os gwelwch yn dda.