
Mi fydd Clwb Ifor Bach yn cau’r drysau hyd nes y byddwn ni’n rhoi gwybod fel arall ar sail cyngor y llywodraeth o achos Covid-19.
Helo – mae’n siŵr eich bod chi’n disgwyl clywed y newyddion yma, ond rydyn ni wedi penderfynu cau ar unwaith hyd nes y byddwn ni’n rhoi gwybod fel arall. Rydyn ni wedi dod i’r penderfyniad yma ar sail cyngor y Llywodraeth ac er mwyn cadw ein cynulleidfa a’n staff mor ddiogel â phosibl.
Doedd y penderfyniad yma ddim yn hawdd, ond dyma obeithio eich bod chi’n cytuno mai dyma’r penderfyniad cywir.
Rydyn ni’n gweithio’n galed i aildrefnu’r digwyddiadau sydd wedi’u heffeithio hyd gorau ein gallu. Bydd modd i chi gael yr wybodaeth a’r newyddion diweddaraf trwy ein cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan wrth i ni gadarnhau pethau.
Bydd yr holl docynnau cyfredol yn parhau’n ddilys ar gyfer y dyddiad newydd a bydd ad-daliadau ar gyfer unrhyw sioeau a gafodd eu canslo neu’u gohirio ar gael o’r man prynu gwreiddiol os nag oes modd i chi fynychu’r digwyddiad ar y dyddiad newydd.
Yn y cyfamser, byddwn ni’n parhau i rannu cynnwys sy’n ddiddorol, defnyddiol neu sy’n codi’r galon trwy ein cyfryngau cymdeithasol a’n cylchlythyr.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at agor ein drysau i chi eto.
Byddwch yn ddiogel a gofalwch ar ôl eich gilydd,
Clwb