
Draw yn Clwb Ifor Bach, ni wedi penderfynu rhoi rhestr o’r hoff albyms, artistiaid, senglau a digwyddiadau byw yn 2021 i helpu chi ddarganfod rhai o drysorau’r flwyddyn wrth i ni fynd mewn i 2022.
HOFF GÂN 2021
Skull Never – Sharpie
6 gitâr a thrombôn. Beth sydd ddim i’w garu? – Adam
Papur Wal – Arthur
Rhyddhaodd Papur Wal un o’r albymau gorau o 2021 ac mae’r gân hon yn arbennig yn sefyll allan i mi. Fi’n caru geiriau nhw, eu ffordd cynnil ond hamddenol o chwarae, a odd profi’r gân yn fyw yn anhygoel. – Elan
Ed Dowie – The Obvious I
Mae’r gân yma yn profi mae dyma be’ mae Ed Dowie yn Wych am wneud. Pan nes i weld e yng Ngŵyl Swn eleni, Nath e neud fy enaid i’n hapus ac yn drist ar yr un pryd. – George
Flyte – Cathy Come Home
Mae ganddo alaw wallgof o fachog yn y corws, gyda harmonïau hyfryd a phwnc testun cryf. – Alex
Xiu Xiu & Liz Harris – A Bottle Of Rum
Dyma’r cydweithrediad arswydus fi wedi bod yn aros am fy holl mywyd. Ma’ nhw wedi llwyddo i greu un o’r traciau gwerin pop mwya’ poblogaidd y flwyddyn. Fi’n chware fe drwy’r amser. – William
Bredren feat T Man (DLR Remix) – Inferno
Dyma fersiwn DLR o glasur tanddaearol. – Ffion
Sports Team – Here’s The Thing
Mae’n neud ti moen dawnsio a Hefyd trio canu gyda’r gân ond ma’r geiriau mor gyflym, mae bron yn amhosib. Mae’n gân ryfedd o hapus ond mae’r sylwebaeth gymdeithasol yn cyferbynnu’n llwyr â’r egni hapus yna. – Ashley
Hyll – Ar Draws Y Byd
Byse’n I wedi gallu dewis unrhyw gân o EP newydd Hyll i fod yn onesd. Ond mae’r gân yma yn swnnio fel be’ ma’ Hyll wedi bod yn trio ‘neud dros y blynyddoedd. Mae’r defnydd o linynnau yn rhywbeth newydd i’r band ond mae’n swnnio’n naturiol ac yn gywir, a Gobeithio neuth e aros am byth. – Steffan.
Old Peel – Aldous Harding
Fi’n caru e, a nes i brynu e ar 7’ a nes i glywed fersiwn arall o fe a mae’n hyfryd! – Lucy
Madlib – Road of the Lonely Ones
– Cai
Remi Wolf – Quiet on Set
– Guto
HOFF ARTIST NEWYDD
FoldUh
Traciau hwyliog am hummus. Dy’n nhw ddim yn swnnio fel Shame, felly newch chi siwr y fod ddim clywed nhw ar 6 Music. – Adam
Alice Low
Alle’n i fynd ‘mlaen a ‘mlaen am ba mor sbesial yw Alice Low. Mae’n artist hollol unigryw, mae’n berfformwraig anhygoel a fi’n cael fy llorio bob tro mae’n perfformio. Mae ganddi ddawn arbennig i ddal sylw cynulleidfa. Fi methu aros i weld a chlywed be’ mae’n neud nesa’. – Elan
Kiddus
Mae Kiddus yn artist o Grangetown sydd wedi dod yn enwog am eu antics ar-lein a’u sioeau byw unigryw. Mae eu perfformiadau yn hollol annisgwyl. Ma’ nhw’n enigma llwyr, yn ddoniol, yn ddwys, yn ysgafn, ac yn ddwfn. Does neb arall allan yna sy’n debyg i Kiddus! – George
Donovan
Mae gan Donovan ystod anhygoel o’r math o gerddoriaeth mae’n ei greu. Mae’n amrywio o ganeuon gwerin gwych i adfywio themâu canoloesol yn ei ganeuon. – ALEX
The Weather Station
Mae’n braf, wedi’i ddienyddio’n arbenigol ac yn hawdd ar y clustiau. Yn atgoffa llawer o Destroyer i mi ond gyda cheinder rhywun fel Weyes Blood. Hoff drac: Calon – William
Grove
Ma’ nhw wedi cael blwyddyn anhygoel, chi ddim moen colli be’ ma’ nhw’n neud. – Ffion
Wolf Alice
Mae eu halbwm newydd yn anhygoel, mae pob sengl wedi bod yn anhygoel ac emosiynol ac anthemig, ac yn fyw maen nhw’n rhywbeth arall yn unig. – Ashley
Bdrmm
Fi ddim yn hoffi pan ma’ bandiau’n sillafu eu henw mewn ffordd lletchwith yn fwriadol. Mae’n neud fi ddim moen gwrando arnyn nhw. Ond nath Will chwarae nhw yn y swyddfa ychydig o weithiau, a bob tro byse’ fe’n chwarae nhw o’n i’n gofyn pwy odde’n nhw. Nes i weld nhw yng Ngŵyl End of The Road, a fi gallu cadarnhau bod nhw hyd yn oed yn well yn fyw. – Steffan
Josephine Foster
Nes i ddechre gyda’r albym ‘Blood Rushing’ a mis yn ddiweddarach fi dal yn gwrando arno fe. Mae ‘di helpu fi wrth symud tŷ. – Lucy
Earl Sweatshirt
Ar ôl i ni golli MF DOOM, nes i ffeindio pethe oedd yn debyg a nes i gwmpo mewn cariad gyda nhw. – Cai
Melin Melyn
– Guto
HOFF ALBYM 2021
Cord Galaxy – When We First Met
Teimlo fel bod rhywun yn rhoi mwythau i dy glustiau. – Adam
Self Esteem – Prioritise Pleasure
O’n i’n gwbod yn syth mae hwn fyddai fy hoff albwm o’r flwyddyn pan nes i weld Self Esteem yn perfformio yn Green Man. Mae’r ffordd siaradodd yr albym yma gyda fi a gymaint o bobl eraill yn wirioneddol anhygoel ac yn glôd i sgiliau ysgrifennu Rebecca Taylor. Ma’ gwylio hi’n perfformio gyda’i band yn brofiad hyfryd a odd y profiad o wylio hi’n fyw yn Clwb eleni yn aros gyda fi am amser hir. – Elan
Mace The Great – MSOTB
Mae’n rhaid i fi gyfadde’ o’r cychwyn, mae fi yw siwr y fod ffan mwya’ Mace The Great. Fi wedi gwrando ar yr albym yma gymaint o weithiau, odd Mace The Great yn top 5 fi ar Spotify Wrapped eleni. Mae Mace yn cynrychioli Caerdydd mwy nag unrhyw artist arall allan yna. Roedd yr albym yma hefyd ar restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni. – George
Neil Young & Crazy Horse – Barn
Er ei fod yn weddol newydd, mae’n ymdrech wych ganddo, ac mae’n wych gweld rhywun sydd wedi bod o gwmpas ers 50 mlynedd yn dal i gynhyrchu albym mor safonol. – Alex
Remi Wolf – JUNO
Fi erioed wedi clywed rhywbeth mor egnïol yn fy mywyd. Siwgr pur. – William
Little Simz – Sometimes I Might Be Introvert
Syfrdanol, graenus, popeth. Yn syml, mae’n gampwaith. – Ffion
Press To Meco – Transmute
Riffs anhygoel, trwmpedi, harmonïau anhygoel o dynn ac alawon arallfydol. – Ashley
Mogwai – As The Love Continues
Dywedodd gwasanaeth ffrydio poblogaidd wrthyf fod yr albwm hwn wedi bod yn dolennu yn fy nghlustiau trwy’r flwyddyn. Ni allwch ddadlau â’r stats. Ni allwch hefyd ddadlau â gwir frenhinoedd yr Alban. Fe allech chi ddweud hyn am bob un o’u halbymau – dim ond ffycin ffantastig ydyn nhw? – Steffan
Ed Dowie – The Obvious & I
Llais fel angel, a fi’n meddwl bod ‘i albym e’n hyfryd – Lucy
Gruff Rhys – Seeking New Gods
-Cai
Little Simz – Sometimes I Might be Introvert
– Guto
HOFF DDIGWYDDIAD BYW 2021
Shiny Fitting yn Be Yourself Weekender
Gig. Mewn pwll glo. Wedi’i amgylchynu gan flodau pinc oedd wedi’u goleuo. Nathon nhw hyd yn oed neud cover o un o fy hoff ganeuon gan Toast! – Adam
Lansiad Albym Breichiau Hir yn Clwb Ifor Bach
Fi ‘di bod yn ffan o Breichiau Hir ers o’n i’n 15 oed, felly odd y noson yma wastad mynd i fod yn un arbennig. Ond nathon nhw jyst fynd tu hwnt i be’ o’n i’n ddisgwyl a nathon nhw llorio ni i gyd, Ma’ Hir Oes i’r Cof yn albym wych a odd cal y cyfle i wrando arno fe’n fyw yn anhygoel. Fi moen neud e i gyd eto! – Elan
Richard Dawson yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd
Fi’n ffan mawr o Richard Dawson, felly ma’ gwylio fe’n fyw wastad yn brofiad hyfryd, a dyma’r digwyddiad cynta’ nol i fi ers i Covid fwrw. Odd yr haul allan, o’n i’n eistedd gyda hen ffrindiau a ffrindiau newydd, yn bwyta falafel a yfed cider. Odd e’n brofiad na’i gofio am byth. – George
Alice Low yng Ngŵyl Sŵn
Mae’n anghyffredin gweld perfformiwr sydd â phresenoldeb llwyfan mor wych, ac roedd y perfformiad syfrdanol yma wedi neud y dewis yma’n un hawdd i fi. – Alex
Joel Culpepper yn Clwb Ifor Bach
Mae’r dyn yn garisma mewn trowsus tynn. Hefyd fi’n credu mae fe sydd gyda’r band gorau yn y byd. Falle. – William
Break B2B Dillinja B2B S.P.Y yn RUN.
Odd hwn yn ddigwyddiad hollol anhygoel nath ddigwydd ar ddamwain achos salwch. – Ffion
Lynks yn Sŵn
O’n i ddim yn siwr iawn beth i ddisgwyl, ond wedyn nath person ddod mewn gyda gimp masg a dawnswyr a rhoi’r sioe un o’r sioeau byw gorau i mi eu gweld trwy’r flwyddyn. Egni arallfydol, tiwns anferthol a jyst y teimlad mwyaf sbesial mewn ‘stafell llawn. – Ashley
Sugar Horse yn The Moon
Cyn y sioe yma, o’n i erioed wedi gweld Sugar Horse yn fyw o’r blaen, ac ar ôl gwylio nhw, fi gallu cadarhau bo’ fi erioed wedi gweld unrhywbeth tebyg o’r blaen. Alle’n i rhestri’r genres gwahanol ma’ nhw’n chwarae, ond neuth e ddim dod yn agos i’r profiad o gwylio’n nhw’n fyw. – Steffan
Richard Dawson at End Of The Road
Nos Sul ar The Garden Stage — odd e’n hyfryd ac yn hudolus. – Lucy
Fontaines DC
yn yr Undeb Myfyrwyr. – Cai
Self Esteem at Green Man
– Guto