
Ymunwch â’r tîm yn Clwb Ifor Bach fel Rheolwr Swyddfa!
Clwb Ifor Bach yw un o brif leoliadau cerddoriaeth llawr gwlad Cymru, ac mae wedi bod yn gartref i gerddoriaeth newydd ers dros 35 mlynedd. O ganlyniad i gynnydd yng ngweith- garwch y cwmni yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a’n cais llwyddiannus diweddar i ddod yn elusen, rydyn ni nawr yn chwilio am Reolwr Swyddfa i ymuno â’r tîm. Chi fydd yn gyfrifol am y gweithrediadau ariannol o ddydd i ddydd, ynghyd â gwaith adnoddau dynol amrywiol, dyletswyddau gweithredol a gweinyddol, a sicrhau bod y swyddfa’n cael ei rhedeg yn effeithlon.
Mae rhestr llawn o’r holl ofynion a dyletswyddau i’w gael yn y pecyn cais islaw.