Helpwch staff llawrhydd Clwb trwy Covid-19

Newyddion Clwb Ifor Bach – 01/04/2020

Rydym ni’n codi arian ar gyfer y staff llawrhydd a hunan-cyflogedig rydym yn gweithio gyda’n aml.

Rydyn ni bellach ar gau ers Mawrth 14 oherwydd sefyllfa’r Coronafeirws.

Ers i’r Llywodraeth gyhoeddi eu cefnogaeth i fusnesau, rydyn ni wedi penderfynu defnyddio’r ymgyrch hon fel cyfle i gefnogi’r rheiny sy’n staff llawrydd a hunangyflogedig mae Clwb yn eu defnyddio yn aml. Mae’r rhain yn cynnwys technegwyr sain, DJs, reps a ffotograffwyr. Gyda Clwb ar gau, mae nhw’n colli incwm mae nhw’n dibynnu arno.

Mae’r bobl yma’n hanfodol i’n busnes a’n cymuned, a fydden ni ddim yn galle cynnal Clwb hebddyn nhw.

Felly os gwelwch yn dda, os ydych chi’n gallu helpu, gwnewch hynny trwy roi neu brynu un o’r gwobrau.

 

GALLWCH RHOI YMA.