Clwb Ifor Bach Fydd Yn Curadu Llwyfan Settlement Gwyl Y Dyn Gwyrdd Eleni

Playlist – 20/02/2018

Ni’n hapus iawn i gyhoeddi mae ni fydd yn curadu Llwyfan y Settlers eleni yng Ngwyl y Dyn Gwyrdd.

Ar ddiwedd mis Awst, bob blwyddyn, mae swyddfa Clwb Ifor Bach yn gwaghau, a mae pawb yn ymlwybro draw tuag at Crughywel yng nghysgod y Mynyddoedd Du ar gyfer ein hoff wyl.

Mae tocyn Settlers yn rhoi’r cyfle i chi ddarganfod lleoliad yr wyl arbennig yma, cyn i’r holl beth ddechrau ar y penwythnos. Mae yna ddigon o bethau i wneud yna.

Pwy Fydd Yn Chwarae

HMS Morris
Mae’r trio yma yn wych am gyfuno synths, riffs anhygoel a digon o harmonies sydd yn ein cadw ni’n hapus am ddyddiau. Roedd ei albym Interior Design ar rhestr fer y Gwobr Gerddoriaeth Gymreig eleni, a ma’ nhw’n brysur yn ysgrifennu’r 2il albym nawr.

Eugene Capper & Rhodri Brooks
Roedden ni’n ddigon lwcus i gynnal ei lansiad albym Pontvane yn Clwb blwyddyn dwetha’ (mae werth bwrw golwg ar clawr yr albym yma). Mae’r deuawd o Gaerdydd yn neidio o surf rock, i alt-country, psychedelia ac yna i gwerin.

Sock
Daeth Sock i’r amlwg ar ddiwedd 2017 ar ol bod yn cefnogi sawl band ar draws y ddinas. Bydd digon o rhythmau gwahanol a riffs trippy i gadw chi ar eich traed.

Los Blancos
Yn rhan o deulu Libertino Records, mae Los Blancos yn brysur troi mewn i un o fands mwya’ cyffrous Cymru, yn ysgrifennu caneuon pop amrwd sy’n cael eu chwarae gan band indie rock dynamig.

Hlemma
Mae Hlemma yn gyfuniad o aelodau Carw a Winter Villains – ond dyma ei prosiect electro pop sydd yn ffrwydro gyda melodiau arbrofol. Bydd y Mynyddoedd Du yn gefndir anhygoel i set Hlemma.

Marged
Mae Marged yn artist o Gaerdydd, mae’n defnyddio ei llais anhygoel fel prif offeryn ei cherddoriaeth, ond heb anghofio ei synths atmosfferig, a’r lyrics trawiadol sy’n creu set dwys ac emosiynol.

My Name Is Ian
Mae’r triawd yma yn ddiddanwyr gwych. Trwy gyfuno chants, hiwmor tywyll a presenoldeb llwyfan anhygoel mae’r saith mlynedd dwetha’ wedi gweld perfformiadau o gerddoriaeth sy’n mynd o garage rock i lo-fi punk.

Buzzard Buzzard Buzzard
Ni wedi gweld Buzzard Buzzard Buzzard llwyth o weithiau dros y 12 mis dwetha, a mae bob set wedi bod yn gyfuniad hudolus o vintage rock, a pop lo-fi.

Threatmantics
Mae Threatmantics yn legends yma yng Nghaerdydd, ac mae nhw wedi bod yn perfformio ei sets egniol dros y deng mlynedd dwetha’. Mae’r band folk-punk yma yn eich cadw ar ochr y dibyn, gyda’i riffs surf rock a’r viola sydd yn eich cadw gyda gwen ar eich gwyneb.