
Rydyn ni wedi dylunio cerdyn post Nadoligaidd hyfryd er mwyn i chi allu rhoi anrheg o gig Clwb Ifor Bach y Nadolig yma!
I hawlio’ch un chi: Unwaith y byddwch wedi prynu’ch tocyn y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw e-bostio post@clwb.net gyda’r llinell bwnc ‘Festive Postcard’, sgrinlun o gadarnhad y tocyn, a’ch cyfeiriad post. Gwnewch yn siwr i wneud hyn cyn dydd Mercher 14.12.22.
Yna byddwn yn anfon eich cerdyn post Nadoligaidd (ac amlen ffansi) yn y post *am ddim* er mwyn i chi allu llenwi’r bylchau a’i drosglwyddo i’ch anwylyd ar y 25ain o Ragfyr! Bydd hyn wedyn yn caniatáu mynediad iddynt i’r gig yr ydych wedi’i ddewis 👉 https://clwb.net/cy/digwyddiadau/
Syml!