Caneuon Ac Albyms Ddaeth Mas Yn Ionawr 2018 Sydd Ar Loop Yn Swyddfa Clwb

Playlist – 07/02/2018

Dyma’r caneuon ni wedi bod yn ymladd i chwarae ar speaker y swyddfa dros y 4 wythnos diwethaf.

1. Dream Wife – Dream Wife

Roeddem ni’n ddigon lwcus i ddal y riot grrrls yn Clwb yn ystod Gwyl Swn yn 2015, mewn stafell llawn dop yn The Big Top ar gyfer gig Independent Music Venue llynedd a Gwyl The Great Escape blwyddyn diwethaf.

Mae album cyntaf y band wedi bod ar loop yn y swyddfa trwy’r wythnos – a mae’r fideo ar gyfer Hey Heartbreaker yn werth gwylio.

2. Isolate EP – Setaoc Mass

Os chi’n edrych am 4×4 industrial foot stomper, wedyn dyma’r EP i chi! Ddath Isolate mas ar Ionawr 26ain 2018, yw’r 2il prosiect ar y cyd rhwng Cleric & Setaoc Mass.

3. K’TA – Serol Serol

Mae Penmachno yn bentref bach yng Nghonwy, sy’n enwog am olygfeydd godidog o’r holl fynyddoedd a coedwigoedd sy’n ei amgylchynu.

Ond dros y deunaw mis dwetha’, mae Penmachno wedi brysur newid mewn i cartref Space Pop y byd. Mae Serol Serol newydd rhyddhau ei anthem synth pop diweddara ar IkaChing Records, croeso i’r byd K’TA.

4. Microshift – Hookworms

Dyma neo-psychedlia ar ei orau, ac mae’r band o Leeds nol! Tro ‘ma gyda albym rhif tri, Microshift. Trwy symud i fwrdd o’u swn chaotic kraut-rock mae Microshift yn siwr o symud eich traed. Os chi ddim yn rhy hoff o’r cyfeiriad newydd, chi methu peidio hoffi gwaith celf yr albym.

5. Songs Of Praise – Shame

Mae’r band post-punk, Shame wedi dechrau 2018 gyda’u albym cyntaf Songs of Praise, i’r clod mwyaf. Yn syth ar ol i’r albym cael ei rhyddhau, mae taith 15 sioe y band wedi’i werthu mas a ni methu aros i’r holl beth ddechrau yn Clwb Ifor Bach.

6. Veteran – JPEGMAFIA

Mae JPEGMAFIA yn cynnig cerddoriaeth trap tywyll, gyda curiadau lo-fi, glitches arbrofol a digon o hiwmor tywyll.

Ni’n caru’r album 19 cân yma, er falle neuth hi gymryd dau neu dri spin i wir werthfawrogi’r holl elfennau cudd yn yr album.

7. I Can Feel You Creep Into My Private Life – Tune-Yards

Mae Tune-Yards wedi neud enw i’w hun am neidio o un arddull cerddorol i’r llall, a dyna’n union mae Merrill Garbus a’i chriw yn neud gyda’r album yma ond gyda mwy o ddylanwad techno a house yn ymuno a’r rhythmau arbrofol.

8. Blue Suitcase (Disco Wrist) – The Orielles

Mae sengl diweddara The Orielles yn cael ei chwarae’n ddyddiol yn y swyddfa gan bod ni methu aros i ddal nhw yn Clwb ar yr 20fed o Chwefror!

Post-punk llon a melodig sy’n berffaith ar gyfer wythnosau olaf y Gaeaf.

9. Tir Ha Mor – Gwenno

Ar ôl ei pherfformiad yn y Redhouse yn Merthyr blwyddyn dwethaf, mae un o hoff artistiaid Clwb, Gwenno wedi dechrau’r flwyddyn gyda Tir Ha Mor, sydd oddi ar ei albym newydd, Cernyweg, Le Kov.

Mae Tir Ha Mor yn gweld Gwenno yn darganfod swn mwy atmosfferig i gymharu a synnau glitchy a electroneg ei albym cyntaf, Y Dydd Olaf. Ni’n caru y curiadau kraut-rock sydd yn gyrru drwy’r gân.