
Mae Clwb Ifor Bach yn chwilio am swyddog marchnata digidol i ymuno â’r tîm.
Gigfan sefydledig yw Clwb Ifor Bach sydd wedi bod yn gartref i gerddoriaeth newydd am dros 35 mlynedd. Am y chwe blynedd diwethaf mae Clwb wedi bod yn un o brif hyrwyddwyr annibynnol Caerdydd, yn hyrwyddo digwyddiadau ar draws y wlad, rhaglennu cerddoriaeth byw ar gyfer amryw o ddigwyddiadau a chyflwyno yr ŵyl aml-leoliad dinesig, Gŵyl Sŵn.
Ym mis Ebrill 2021, fe lansiwyd Clwb Music, cwmni cerddoriaeth annibynnol sy’n cynnwys label recordiau, cwmni rheoli a chyhoeddi gyda’r nod o ddatblygu a chydweithio ag artistiaid o Gymru.
Mae Clwb Ifor Bach yn edrych i recriwtio Swyddog Marchnata Digidol creadigol sydd gyda diddordeb dwys mewn cerddoriaeth gyfoes i ymuno â’r tîm marchnata. Mi fydd gan yr ymgeisydd del-frydol obsesiwn gyda cerddoriaeth a profiad mewn rôl tebyg neu mewn rôl o fewn y diwydiant cerddoriaeth.
Mi fydd y cyfrifoldebau yn cynnwys rheoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol gwahanol, creu hysby-sebion digidol a chyflwyno adroddiadau dadansoddol ar werthiant a gweithgareddau Clwb Ifor Bach.
Cliciwch yma i gael y disgrifiad swydd llawn. I ymgeisio am y rôl hon – anfonwch CV a llythyr eglurhaol at: guto@clwb.net
Os oes cwestiynnau gyda chi am y rôl neu os hoffech chi drafod unrhywbeth ym mhellach cyn cyflwyno’ch cais, e-bostiwch: steff@clwb.net
Dyddiad Cau: 21.05.21