
Fe galwon ni ar ein ffrindiau ar lein-yp ein sioe fawr yn Llundain i roi playlist at ei gilydd ar gyfer y taith 3 awr i’r ddinas.
Ti di clywed? Ni ‘di neud y big time ac off i Lundain gyda cwpl o ffrindiau am noson o gerddoriaeth Cymraeg.
Mae’n gig cynta’ tu fas i’r Famwlad yn y Lexington ar y 28ain o Dachwedd, a ‘da ni methu aros i droi’n cyfrifiaduron off a bwrw’r M4.
Un o’r pethau ar y checklist ar gyfer y trip fawr – PLAYLIST.
Felly, fe ddanfonom ni neges i’n pals sy’n chwarae’r sioe – Buzzard Buzzard Buzzard, Mellt, Marged a Names – a gofyn am awgrymiadau ar gyfer playlist y daith.