Building on a shared commitment to independent music, the partnership marks the next chapter for Clwb Ifor Bach and Sŵn Festival.
Clwb Ifor Bach, Cardiff’s iconic independent music venue and one of Wales’ leading grassroots music organisations, today announces a new long-term partnership with independent promoter Crosstown Concerts. Bringing together two organisations with a shared commitment to artist development, grassroots music, and independent culture, the partnership will see Sŵn Festival become a co-production from 2027, creating new opportunities to build on the festival’s success while preserving the values that have shaped it for nearly two decades.
Founded by Huw Stephens in 2007 and led by the Clwb Ifor Bach team since 2018, Sŵn has become a vital platform for emerging artists from Wales and beyond. Spanning Cardiff’s network of independent venues, the festival has earned a reputation for fearless programming, championing new talent and helping audiences discover their next favourite artist.
The partnership marks the next chapter for Sŵn as it prepares to celebrate its 20th anniversary in 2027. Bringing together Clwb Ifor Bach’s curatorial vision with Crosstown Concerts’ experience in delivering festivals and live events, the collaboration will create new opportunities to broaden the festival’s reach, support more emerging artists, and further establish Cardiff as one of the UK’s most exciting cities for discovering new music.
Guto Brychan, Chief Executive of Clwb Ifor Bach, said: “Sŵn has always been about discovery. It’s about giving artists their first big opportunities, bringing people together through live music, and celebrating Cardiff’s incredible independent music community. Crosstown shares our belief in artist development, independent music and building for the long term. This partnership gives us the support, expertise and capacity to grow Sŵn sustainably, while keeping the festival’s identity and values at its heart. We’re incredibly excited about what this means – not just for Sŵn, but for artists, audiences and the wider Welsh music scene.”
To facilitate the partnership, Adam Williams will take up a new role as National Promoter and Artist Manager at Crosstown Concerts. Having spent more than a decade shaping Clwb Ifor Bach’s music programme and Sŵn Festival, he’ll continue to lead the festival’s creative vision while expanding opportunities for Welsh artists on a national stage. As Sŵn looks ahead to its next chapter, this year’s festival remains firmly in focus. Sŵn 2026 returns to Cardiff from 15 to 17 October as part of Cardiff Music City Festival, with its first wave of artists already announced, with more to come. Tickets are on sale now.
–
Mae Clwb Ifor Bach, lleoliad cerddoriaeth annibynnol Caerdydd ac un o brif sefydliadau cerddoriaeth lawr gwlad Cymru, heddiw yn cyhoeddi partneriaeth hirdymor newydd gyda’r hyrwyddwr annibynnol Crosstown Concerts. Fel rhan o’r bartneriaeth – sy’n uno dau sefydliad gydag ymrwymiad tebyg tuag at ddatblygu artistiaid, cefnogi cerddoriaeth newydd a hyrwyddo diwylliant annibynnol – bydd Sŵn yn ŵyl wedi’i gyd-gynhyrchu o 2027 ymlaen. Bydd y bartneriaeth yn creu cyfleoedd newydd i adeiladu ar lwyddiant yr ŵyl hyd yma, gan ddiogelu’r gwerthoedd sydd wedi siapio ei hunaniaeth dros yr ugain mlynedd diwethaf.
Wedi’i sefydlu gan Huw Stephens yn 2007, a’i harwain gan dîm Clwb Ifor Bach ers 2018, mae Sŵn bellach yn blatfform hanfodol i artistiaid newydd o Gymru a thu hwnt. Gan ymestyn ar draws rhwydwaith o leoliadau annibynnol Caerdydd, mae’r ŵyl wedi ennill ei phlwyf am ei rhaglenni beiddgar, ei chefnogaeth barhaus tuag at dalent newydd, a’i gallu i helpu cynulleidfaoedd ddarganfod eu hoff artist newydd.
Mae’r bartneriaeth yn nodi pennod newydd i ŵyl Sŵn, sy’n dathlu ei 20fed rhifyn yn 2027. Drwy gyfuno gweledigaeth greadigol Clwb Ifor Bach ag arbenigedd Crosstown Concerts – sy’n cyflwyno gwyliau a digwyddiadau byw – bydd y cydweithrediad yn creu cyfleoedd newydd i ehangu ar gyrhaeddiad yr ŵyl, cefnogi mwy o artistiaid sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru a thu hwnt, a chryfhau safle Caerdydd fel un o ddinasoedd mwyaf blaenllaw y Deyrnas Unedig am ddarganfod cerddoriaeth newydd.
Dywedodd Guto Brychan, Prif Weithredwr Clwb Ifor Bach: “Mae darganfod wastad wedi bod wrth wraidd Sŵn. Sail yr ŵyl yw rhoi’r cyfleoedd mawr cyntaf i artistiaid newydd, dod â phobl ynghyd drwy gerddoriaeth fyw, a dathlu cymuned gerddoriaeth annibynnol anhygoel Caerdydd.
“Mae Crosstown yn rhannu ein gweledigaeth mewn sawl ffordd, gan gynnwys datblygu artistiaid, cerddoriaeth annibynnol ac adeiladu ar gyfer y tymor hir. Mae’r bartneriaeth hon yn rhoi’r gefnogaeth, yr arbenigedd a’r gallu i ni dyfu Sŵn yn gynaliadwy, gan sicrhau bod hunaniaeth a gwerthoedd yr ŵyl yn parhau wrth wraidd popeth a wnawn. “Rydym yn hynod gyffrous am y bennod nesaf hon – nid yn unig i Sŵn, ond hefyd i’r artistiaid, cynulleidfaoedd a’r sin gerddoriaeth ehangach yng Nghymru.”
Fel rhan o’r bartneriaeth, bydd Adam Williams yn ymgymryd â rôl newydd fel Hyrwyddwr Cenedlaethol a Rheolwr Artistiaid gyda Crosstown Concerts. Ar ôl treulio dros ddegawd yn llunio rhaglen gerddoriaeth Clwb Ifor Bach a Sŵn, bydd yn parhau i arwain ar weledigaeth greadigol yr ŵyl, gan ehangu cyfleoedd i artistiaid o Gymru ar lwyfan cenedlaethol.
Wrth i’r ŵyl edrych tua’r dyfodol, bydd Sŵn 2026 yn dychwelyd i Gaerdydd rhwng 15 a 17 Hydref fel rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd. Mae ton gyntaf yr artistiaid eisoes wedi’i chyhoeddi, gyda rhagor o enwau i’w datgelu yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae tocynnau ar werth nawr.