Swydd: Cynorthwydd Marchnata

Ni’n hapus iawn i allu cyhoeddi ein bod ni’n chwilio am Gynorthwydd Marchnata llawn amser i ymuno tîm Clwb! Darllenwch y bit disgrifiad swydd isod ag os oes diddordeb gyda chi i geisio am y swydd, ebostiwch eich CV a llythyr eglurhaol at meg@clwb.net erbyn Awst 15, 2018!

Mi fydd gofyn i’r Cynorthwydd Marchnata fod yn gyfrifol am y gweithredoedd canlynol yng Nghlwb Ifor Bach :

1. Cyfryngau Cymdeithasol

  • Amserlenni cynnwys ar bob platfform cyfryngau cymdeithasol
  • Creu storïau rheolaidd ar Instagram a Snapchat
  • Cyhoeddi sioeau dros bob platfform
  • Cyfathrebu gyda cwsmeriaid

2. Dylunio

  • Creu posteri ar gyfer digwyddiadau yn barod ar gyfer cyhoeddi sioeau
  • Creu posteri a chynnwys ychwanegol ar gyfer prisiau arbennig
  • Creu gwaith celf ar gfyer sioeau mewnol
  • Cynllunio baneri a lluniau ar gyfer cyfryngau cymdeithasol
  • Cynllunio baneri ar gyfer sgriniau digidol yn yr adeilad

3. Cynnwys

  • Creu rhestr digwyddiadau misol i’r wasg
  • Creu cynnwys sydd yn addas ar gyfer cyhoeddi sioeau gyda’r bwriad o werthu mwy o docynnau
  • Creu cynnwys i’w defnyddio ar draws platfformau cyfryngau cymdeithasol gyda’r bwriad o wella cyfathrebu gyda cwsmeriaid

4. Cyfrifoldebau Eraill

  • Printio ac hwyluso y dosbarthiad o bosteri
  • Postio lluniau o ddigwyddiadau yn ogystal â’r photo booth ar gyfryngau cymdeithasol
  • Cynnig syniadau ar gyfer strategaeth marchnata ehangach 
  • Diweddaru gwybodaeth ynglun â digwyddiadau ar ein gwefan

5. Gwaith Ychwanegol

  • Cynorthwyo gyda unrhyw waith ychwanegol a gofynnir gan y cyflogwr o bryd i’w gilydd

6. Goruchwyliaeth

  • Mi fydd y Cynorthwydd Marchnata yn atebol i’r Swyddog Marchnata o ddydd i ddydd, ond yn y pendraw i’r Bwrdd trwy’r Prif Weithredwr.

Profiad, Sgiliau a Cymwyseddau Hanfodol

  • Y gallu i siarad ac ysgrifennu yn y Gymraeg
  • Angerdd tuag at gerddoriaeth byw ac yn wybodus o dueddiadau cyfredol yn y sector
  • Profiad blaenorol neu gradd o fewn marchnata, hysbysebu neu dylunio graffeg
  • Diddordeb mewn cyfryngau cymdeithasol, ymgysylltu a tueddiadau
  • Persenoliaeth hyderus a brwd
  • Sgiliau trefnu a gweinyddol gwych
  • Y gallu i weithio yn hyblyg mewn tîm bach, trwy adeiladu ar berthynas bositif gyda cyd-weithwyr