
- Gŵyl Cymru: Y Cledrau
- Elis Derby
- Dyddiad:
- Amser:
- Pris: £6
- Cyfyngiadau Oedran: 18+
- Lleoliad: Clwb Ifor Bach
Ni’n edrych ’mlaen i groesawu’r pedwarawd indie ‘Y Cledrau’ nol i Clwb Ifor Bach mis Rhagfyr yma yn rhan o Gŵyl Cymru!
Mae Y Cledrau yn dathlu eu penblwydd fel band eleni, yn 10 mlwydd oed! Ar ôl Haf prysur o gigio eu albym diweddar ‘Cashews Blasus’ ni’n cyffroes i groesawu’r pedwarawd indie o Ogledd Cymru, nol i Clwb Ifor Bach mis Rhagfyr yma yn rhan o Gŵyl Cymru i ddathlu tîm pêl droed Cymru yn cyrraedd Cwpan y Byd. Hefyd yn ymuno â’r parti bydd Elis Derby.