
- The Lovely Eggs
- Thick Richard | Arch Femmesis
- Dyddiad:
- Amser:
- Pris: £13
- Cyfyngiadau Oedran: 16+
- Lleoliad: Clwb Ifor Bach
Am y 2 flynedd diwethaf, mae The Lovely Eggs wedi eistedd nol a gwylio Lloegr a gweddill y planed yn bwyta’u hun. Yn 2022, fe ddaw’r band i Clwb Ifor Bach am sioe hir ddisgwyliedig.
Mae The Lovely Eggs yn fwriadol annibynnol. Gyda naw sesiwn BBC 6 music tu ôl iddynt, yn ogystal â sesiynau i Radio 1 a Radio X, maent wedi mwynhau cefnogaeth anferthol gan Radio’r DU. Mae’r band hefyd yn parhau i werthu allan gigs ar draws y DU heb help o reolaeth, asiant neu label i’w cefnogi.
Mae’r band wedi cynhyrchu 6 albwm. Gwelodd y 5ed ‘This is Eggland’ ei chyfarfyddiad gyntaf gyda Dave Fridmann fel cynhyrchydd/cymysgydd ar ôl i Holly adael neges (tra’n feddw) dros y ffôn yn gofyn iddo weithio gyda nhw. Cysylltodd Dave gyda nhw blwyddyn yn hwyrach ac felly daeth enedigaeth Eggland. Fe ryddhawyd yn Chwefror 2018 i glod anferthol, cafodd ei ychwanegu i Playlist 6 Music a’i gyhoeddi fel un o Albyms ‘Top 50’ y flwyddyn gan HMV.
Gyda mwy i’w rhyddhau ar draws y byd, mae The Lovely Eggs wedi chwarae cannoedd o gigs ar draws y DU, yr UDA ac Ewrop. Mae eu caneuon wedi eu cynhyrchu gan Gruff Rhys (Super Furry Animals), ail-gymysgu gan Tjinder Singh (Cornershop) a’i samplo gan Zane Lowe ar gyfer Scroobius Pip.
Gyda geiriau arsylwad, ac weithiau swrrealaidd, am fywyd, mae gan The Lovely Eggs sain grai sy’n swnio fel band dwywaith eu maint. Maent yn adnabyddus am eu sioeau byw ffyrniga. llawen. Yn ddiarwybod, nhw yw’r band fwyaf real ym Mhrydain, yn gweithredu mewn byd lle mae gwir ddilysrwydd yn anodd ei ffeindio.