The Big Moon @ Tramshed, Caerdydd

Dydd Sul 07/03/2021
  • The Big Moon @ Tramshed, Caerdydd
  • Dyddiad: Dydd Sul 07/03/2021
  • Amser: 7.00pm
  • Pris: £15
  • Cyfyngiadau Oedran: 14+
  • Lleoliad: Tramshed
button-8 Tocynnau

Ni wedi bod yn gwrando ar yr albym diweddaraf ‘Walking Like We Do’ drossodd a throsodd ers iddo cael ei ryddhau a ni methu aros i The Big Moon ddod i Tramshed mis Hydref!

Mae chwarae sioe byw am y tro gyntaf am flwyddyn, yn un o’r ŵyliau fwyaf mawreddog, i unrhyw safon, yn gambl. Ond, i The Big Moon, roedd y dewis i ddychwelyd i’r llwyfan ac i chwarae deunydd o’r 2il albym Walking Like We Do am y tro cyntaf, yn ystod set gyfrinachol yn Glastonbury 2019, wedi profi i fod yn un llwyddiannus.

Ers i’r canwr Juliette Jackson adeiladu sylfaen y prosiect, nol yn 2014, mae’r band o Lundain wedi dilyn eu greddf yn gyson, yn dilyn beth sy’n teimlo’n gywir yn lle beth sy’n haws. Mewn amser lle nid yw indie sael-gitar yn cael ei ffafrio rhagor, fe enillon nhw clod am danio bywyd nol i’r genre, ac wedi hynny wedi’i gwobrwyo gydag enwebiad Mercury Music Prize ar gyfer yr albym debut o 2017, Love in the 4th Dimension. Yn ddigon trawiadol yn barod, cyn hyd yn oed ystyried – yn ystod recordio’r albym – roedd y pedwarawd i gydag yn cyfrannu at berfformio fel band cefndirol albym Marika Hackman, I’m Not Your Man.

Yn fwy hunan-sicr ac yn ddi-ofn yn eu creadigrwydd nag erioed, mae The Big Moon yn barod am y bennod nesaf.