
- Gŵyl Sŵn 2023
- Baba Ali | Butch Cassidy | Cerys Hafana | Elanor Moss | Ethan P. Flynn | Heartworms | Jessica Winter | Keg | Lande Hekt | Low Hummer | Luke RV | Lynks | Moin | O. | Sage Todz | Shelf Lives | Slate | Treeboy & Ark | Westerman | Y Dail
- Dyddiad: Dydd Gwener 20/10/2023
- Amser: 12.00am
- Pris:
- Cyfyngiadau Oedran:
- Lleoliad:
Mae Gŵyl Sŵn yn ŵyl gerddoriaeth cyfoes aml-leoliad sydd wedi’i lleoli’n gyfan gwbl yng nghanol dinas Caerdydd, sydd wedi bod yn rhedeg ers 2007.
Ers ei sefydlu, mae’r ŵyl wedi bod yn canolbwyntio ar gerddoriaeth newydd, artistiaid sy’n dod i’r amlwg ac artistiaid lleol.
Eleni, bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal rhwng yr 20ain, yr 21ain a’r 22ain o Hydref. Rydym yn cymryd drosodd llond llaw o’n hoff leoliadau a gofodau yng Nghaerdydd ac yn curadu penwythnos gwefreiddiol o gerddoriaeth adfywiol sy’n ein cyfffroi ni a chi.
Am dridiau, mae canol dinas Caerdydd yn cael ei drawsnewid yn ganolbwynt ar gyfer cerddorion a ffanatigs cerddoriaeth lle cewch gyfle i grwydro’r ddinas a darganfod cerddoriaeth newydd ryfeddol.
Nid yw’r ŵyl yn gyfyngedig i unrhyw arddull arbennig o gerddoriaeth. Rydyn ni’n bwcio artistiaid sy’n ein cyffroi ac rydyn ni’n gobeithio y byddan nhw’n eich cyffroi chi hefyd.