Sŵn festival live at Clwb Ifor Bach on the 21st-23rd of October 2022.

Sŵn Festival 2022


  • Sŵn Festival 2022
  • Dyddiad:
  • Amser:
  • Pris: £20 - £75
  • Cyfyngiadau Oedran: 18+
  • Lleoliad: Various Venues

Mae Gŵyl Sŵn yn ŵyl gerddoriaeth cyfoes aml-leoliad sydd wedi’i lleoli’n gyfan gwbl yng nghanol dinas Caerdydd, sy’n canolbwyntio ar gerddoriaeth newydd, artistiaid sy’n dod i’r amlwg ac artistiaid lleol. 

Eleni, bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal rhwng yr 21ain, yr 22ain a’r 23ain o Hydref.

Rydym yn cymryd drosodd llond llaw o’n hoff leoliadau a gofodau yng Nghaerdydd ac yn curadu penwythnos gwefreiddiol o gerddoriaeth adfywiol sy’n ein cyfffroi ni a chi.

Am dridiau, mae canol dinas Caerdydd yn cael ei drawsnewid yn ganolbwynt ar gyfer cerddorion a ffanatigs cerddoriaeth lle cewch gyfle i grwydro’r ddinas a darganfod cerddoriaeth newydd ryfeddol.

Nid yw’r ŵyl yn gyfyngedig i unrhyw arddull arbennig o gerddoriaeth. Rydyn ni’n bwcio artistiaid sy’n ein cyffroi ac rydyn ni’n gobeithio y byddan nhw’n eich cyffroi chi hefyd.