Iau 5/09/19
Clwb Ifor Bach

Sasami

7:00pm | £9 | 16+

Mae SASAMI (Sasami Ashworth) wedi bod yn creu cerddoriaeth yn ardal Los Angeles, mewn pob ffordd y gallai, am y 10 mlynedd diwethaf. O chwarae’r corn Ffrengig mewn cerddorfeydd a stiwdios, i chwarae’r allweddellau a gitâr mewn bands roc lleol (Dirt Dress, Cherry Glazerr), i gyfrannu at drefniant lleisiau, llinynnau a chyrn i albymau stiwdio (Avi Buffalo, Curtis Harding, Wild Nothing, Hand Habits a.y.y.b) a chynhyrchu tracs ar gyfer artists eraill o barch (Soko), mae SASAMI wedi ennill enw da fel artist cyflawn.