
- Ryan McMullan
- Conor Scott
- Dyddiad:
- Amser:
- Pris: £14.50
- Cyfyngiadau Oedran: 16+
- Lleoliad: Clwb Ifor Bach
Dros y flynyddoedd diwethaf, mae Ryan McMullan wedi bod yn creu enw i’w hun fel canwr eithriadol ac ysgrifenwr talentog. Ni’n edrych ymlaen at ei groesawu i Gaerdydd mis Rhagfyr!
Roedd 2019 yn flwyddyn enfawr i’r fachgen o Portaferry gyda llwyddiant y sengl ‘Rebellion’, a ‘Make A Mark’ (cydweithrediad gyda Beoga). Mae e wedi teithio’n ddi-baid, yn chwarae sioeau a gwerthodd allan yn Dulyn a Belffast, a chefnogi The Coronas ar eu taith ar draws Iwerddon. Fe agorodd i Snow Patrol hefyd yn yr UD, Ewrop ac Asia cyn iddo sefyll fel aelod anrhydeddus yn y band tra bod y gitarydd Johnny McDaid yn gwella o lawdriniaeth. Does ryfedd felly bod Ryan nawr yn cael ei adnabod fel un o dalentau fwyaf ddisglair Gogledd Iwerddon.