Gwener 21/06/19
Twrw

ReuVival (Lugg, Potter + Band Byw): Caneuon o’r Ugeinfed Ganrif

DJ Ian Cottrell
10:00pm | £10 | 18+
Twrw x Tafwyl

Mi fydd Mark Lugg a Gareth Potter yn ymuno ar lwyfan Clwb unwaith eto a’u band am gig byw arbennig!
Roedd Lugg a Potter a’u band Traddodiad Ofnus yn rhan o’r mudiad Tanddaearol gwreiddiol gyda traciau gan y band yn cael eu cynnwys ar y casgliad  eiconig Gadael yr Ugeinfed Ganrif ar label Anhrefn.
Aeth y band ymlaen i recordio’r record hir Welsh Tourist Bored i’r label indie o’r Almaen, Constrictor ac EP I Ankst ar ddiwedd yr wythdegau. Ar ol gadael y band, recordiodd Gareth record Pop Negatif Wastad cyn i’r ddeuawd dod not at ei gilydd i recordio a pherfformio dan yr enw Ty Gwydr.
Mi fydd sioe ReuVival yn cymryd caneuon o bob cyfnod a’u chwarae nhw mewn un set. Yn mynd a ni ar daith o post-punk pigog a ffynci yr 80au i electro pop, hip hop, rave/techno a house Ty Gwydr gyda’u noson clwb anfarwol REU.
Mae hwn yn gaddo fod yn noson unigryw a hanesyddol fydd neb eisiau colli.