
- Peggy Sue
- Grip Tight / Live, Do Nothing
- Dyddiad:
- Amser:
- Pris: £10
- Cyfyngiadau Oedran: 18+
- Lleoliad: Clwb Ifor Bach
Peggy Sue yw Rosa Slade a Katy Young, deuawd o Brighton a Llundain sy’n benthyg darnau o ganeuon pop y 60au ac arbrofion bands indie y 90au fel The Breeders a Blur.
Wedi’i ffurfio yn 2007, mae’r band wedi rhyddhau 3 albwm ar Wichita Recordings, yn adeiladau at ‘Choir of Echoes’ ag ennillodd clod critigol. Fe aeth y deuawd ymlaen i gefnogi ar deithiau Jack White, Local Natives a First Aid Kit.
‘Slow Fade’ yw’r sengl gyntaf o’r albym pedwarydd gan Peggy Sue. Ar ôl egwyl o 3 mlynedd – ble roedd y ddwy yn chwarae yn grwp Deep Throat Choir – daw Rosa Slade a Katy Young yn ôl yn gryf gyda ‘Slow Fade’; dathliad lleddf o amynedd. Mae’n gân breuddwydiol, yn berffaith ffrind i rhywun sy’n mynd trwy torriad galon, un sy’n gadael i chi hongian o gwmpas ar y dyddiau ‘na chi jyst ddim yn teimlo’n iawn eto.
Mae’r deunydd newydd yn gweld Slade a Young wedi’i ymuno gan Dan Blackett (landshapes) ar y dryms a Benjamin Gregory (GRUP TIGHT) ar y bas sy’n dod ag egni ffres ac eglurder i leisiau ddeuol a swynol y band.