
- Manic Street Preachers
- Dyddiad:
- Amser:
- Pris: Free ticket via BBC Ticket Ballot
- Cyfyngiadau Oedran: 16+
- Lleoliad: Clwb Ifor Bach
Rydyn ni’n ffans enfawr o’r Manics yma yn Clwb – mae eu gyrfa doreithiog sy’n ymestyn dros 30 mlynedd, yn bosib wedi profi mai nhw yw’r band roc mwyaf dylanwadol i ddod mas o Gymru erioed.
Rydyn ni wedi eu gweld yn chwarae mewn arenâu, gwyliau a hyd yn oed ar draws y ffordd yng Nghastell Caerdydd, ond nid ydym erioed wedi eu gweld mewn gigfan y maint yma. Ma’r gig yma yn mynd lawr mewn hanes!
Tocynnau
Mae tocynnau yn rhad ac am ddim a chânt eu darparu mewn parau trwy raffl ar hap gyda 70% o’r tocynnau’n mynd i godau post Caerdydd, 20% yn mynd i weddill Cymru a’r 10% sy’n weddill yn mynd i weddill y DU.Mae cofrestru ar agor tan hanner nos ar ddydd Sul 20 Mawrth. Gall pobl wneud cais am hyd at un pâr o docynnau. Bydd angen i ymgeiswyr fod ar gael i gyrraedd y lleoliad ar gyfer dilysu tocynnau o 5.30pm. Drysau 18:00. Mynediad terfynol yw 6.45pm gyda’r perfformiad byw yn dechrau’n brydlon am 7pm. Mae disgwyl i’r gig orffen tua 8pm.