fbpx
Dydd Miwsig Cymru live at Clwb Ifor Bach this February.

Dydd Miwsig Cymru


  • Dydd Miwsig Cymru
  • Dyddiad:
  • Amser:
  • Pris: Free Entry
  • Cyfyngiadau Oedran: 18+
  • Lleoliad: Clwb Ifor Bach
Am Ddim

Mae Dydd Miwsig Cymru yn ôl a ni’n edrych ’mlaen i gael yr adeilad yn llawn artistiaid a bandiau hollol anhygoel.

Ar y llawr gwaelod mi fydd yr artistiaid hip-hop prysur, Lloyd + Dom, y deuawd hip-hop newydd Gwcci, Hana Lili gyda’i sain unigryw a’i band, mi fydd Parisa Fouladi yn barod i’n llorio ni’n gyfan gwbl gyda’i llais hudolus, a Ci Gofod fydd yn cychwyn pob dim gyda set acwstig.

Lan lofft, rhwng yr artistiaid yma i gyd mi fydd Tara Bandito yn lansio ei albym cyntaf yn goron ar ein noson, a ni methu aros i gael hi yn Clwb Ifor Bach. Hefyd yn ymuno a hi bydd y pedwarawd slacker roc Hyll, Mali Haf gyda’i cherddoriaeth breuddwydiol, ac mi fydd Y Dail yn agor lan lofft gyda band llawn tro ’ma.
Gwledd i’r glust, ac mae e i gyd am ddim!