
- Gweithdy DJ
- gyda Esyllt Williams (un hanner Dirty Pop)
- Dyddiad:
- Amser:
- Pris: Free
- Cyfyngiadau Oedran: 16+
- Lleoliad: Clwb Ifor Bach
Ni’n hapus iawn i gyhoeddi gweithdy DJ newydd yn Clwb gyda Merched yn Gwneud Miwsig ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.
Mi fydd Esyllt Williams (un hanner Dirty Pop) yn cynnal dau weithdy arbennig. Y Cyntaf yn Gymraeg a’r ail yn Saesneg. Os ydych chi wastad wedi moyn trio DJio, ond ddim yn siŵr iawn ble i ddechrau – dyma’r gweithdy i chi! Gweithdy anffurfiol, mewn lleoliad diogel i ofyn cwestiynau, dysgu sgiliau newydd a chyfle i gwrdd â phobl newydd hefyd. Nifer cyfyngedig o lefydd ar gael, e-bostiwch elan@clwb.net am fwy o wybodaeth neu i gofrestri.
Gweithdy 1 (yn Gymraeg) – 18:00 – 19:00
Gweithdy 2 (yn Saesneg) – 19:30 – 20:30